Y peth rhyfeddaf a ddigwyddodd mewn chwaraeon yr haf diwethaf oedd bod hanner carfan griced Pacistan a’i dau brif hyfforddwr wedi’u gwysio tua thref am iddynt golli mor enbyd i dîm criced Lloegr yn Headlingly a Lord’s, rhywbeth na ddigwyddodd erioed o’r blaen yn hanes y gamp. Ond nid yw Pacistan fel gwledydd eraill. I bob pwrpas, fe’i rheolir gan ‘hoff gadweinydd’ Donald Trump, sef y Cadlywydd Asim Munir, yr hwn y llynedd a basiodd welliant cyfansoddiadol a’i ceidw mewn grym tan 2035, ac a sicrhaodd tua’r un pryd fod Imran Khan, y cyn brif‑weinidog, yn cael dedfryd o garchar o ddwy flynedd ar bymtheg arall ar gyhuddiadau o lygredigaeth digon bethma. Imran Khan, wrth gwrs, yw arwr cricedyddol mwyaf oll y wlad: ef a’i harweiniodd i ennill Cwpan y Byd ym Melbourne yn 1992. Ac er y caiff teledu’r wladwriaeth ail- ac ail‑ddangos yr ornest enwog honno ni chaiff ddangos Khan yn codi’r cwpan ar ei diwedd.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
