Thema dywyll Thema golau

BBC Wales yn gwneud cam â’r Cymry

erthygl-mai-2020-2086-1001 erthygl-mai-2020-2086-1001
Mae perygl difrifol i ddyfodol ariannol darlledu Cymraeg a Chymreig yn sgil bygythion rhai yn Llywodraeth San Steffan a’r Blaid Geidwadol seneddol. Ar y gorwel mae dwy garreg filltir bwysig – 2022 pan adolygir lefel ffi drwydded y BBC, a 2027 pan ddaw Siarter Brenhinol y Gorfforaeth i ben. Ond mae yna aflwydd arall sy’n digwydd o dan ein trwynau – bai cyffredin sy’n tanseilio Cymreictod y BBC a sawl sefydliad arall yng Nghymru gwaetha’r modd. Ro’n i ar y staff am rai blynyddoedd, felly mae gen i syniad go lew sut mae’r BBC yn gweithio. Mae’n drawiadol pa mor glaear, onid difater, yw rhai o swyddogion y Gorfforaeth yng Nghaerdydd ynghylch dilyn unrhyw weledigaeth neu genhadaeth Gymreig. ‘Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt’ – felly ystyriwch rai cyfresi diweddar. Young, Welsh and Pretty Minted (Cyfres 2) – cawsom eisoes sawl rhifyn o Young, Welsh and Pretty Skint. Iawn, mae diwylliant materol pobl amrywiol, ddiddorol a mentrus dan 30 oed yn bwnc gwerth chweil, ac o ran crefft mae’r rhaglenni yn gweithio fel adloniant ffeithiol poblogaidd. Ond beth sy’n gysefin Gymreig am y straeon sy’n cael eu hadrodd?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2020-2084-1000

Problemau Prifysgol – Covid-19 a myfyrwyr tramor

Ymlaen >
erthygl-mai-2020-2087-1002

Y Pla a’r clymbleidio rhyfeddol