Thema dywyll Thema golau

Becker-gate……a mwy

Yr ail beth fydd yn cael ei gofio am y bencampwriaeth yw’r ffaith i’r pedair prif ddetholyn yng nghystadleuaeth y merched golli mor gynnar. Yr un yw’r ddadl yn flynyddol. Sylwebyddion teledu a radio yn mynnu bod cystadleuaeth y merched yn wan a’r cwestiynau’n codi am p’un ai ddylai gwobr y merched fod yn gyfartal ag un y dynion. Diolch byth am gampau’r chwiorydd Williams yn y ffeinal, a diolch hefyd am Laura Robson, merch 14 oed wnaeth ennill y tlws i ferched dan 18. Does dim dwywaith bod y gamp yn gweld eisiau Kim Clijsters a Justine Henin, y ddwy wedi ymddeol er mwyn cael ‘bywyd normal’ unwaith eto. Gobeithio y bydd modd i rai o’r sêr honedig newydd ddod o hyd i steil y ddwy yma cyn Wimbledon 2009, neu parhau fydd y dadlau am y bwlch mewn safon rhwng y dynion a’r merched.

Gobeithio hefyd y bydd merched yn dechrau dwyn y penawdau ym Meijing ym mis Awst. Ac eithrio’r Gemau yn 1996, mae merched Prydain wedi bod yn cryfhau wrth gystadlu ar y llwyfan Olympaidd. Tybed ai Gemau 2008 fydd y tro cyntaf iddyn nhw ddychwelyd â mwy o fedalau na’r dynion? ’Nôl ym mis Mai fe ddywedodd Denise Lewis, enillydd yr aur yn 2000, mai’r merched fyddai ar flaen y gad ym Meijing. O’r 30 o fedalau a enillodd Prydain yn 2004 yn Athen, merched a gipiodd 12 ohonynt, a digon posib y bydd yna fwy y tro yma gyda dwy Gymraes yn eu plith. Does dim dadlau mai Nicole Cooke yw’r orau yn y byd yng nghamp seiclo i ferched ond mae natur y ras hewl yn y Gemau Olympaidd yn golygu bod angen tîm cryf os am ennill medal. Mae’r ferch o’r Wig wedi bod yn paratoi’n drylwyr, a gyda chefnogaeth Emma Pooley o Loegr mae gwir obaith y bydd modd iddi guro’r timau o Awstralia, Seland Newydd a’r Iseldiroedd.

Ni fydd unrhyw dîm yn cefnogi Helen Tucker o Ben-ybont. Ar ôl ennill Pencampwriaeth Triathlon y Byd yn Vancouver ym mis Mehefin, mi fydd cryn bwysau arni i berfformio unwaith eto mewn camp sy’n golygu nofio, seiclo a rhedeg. Er gwaetha’r disgwyliadau a’r pwysau mi fydd Tucker yn ddiolchgar ei bod hi’n cystadlu yno o gwbl wedi deunaw mis o anafiadau.

Erbyn i’r golofn hon weld golau dydd mae’n bosib y bydd Paula Radcliffe wedi gorfod tynnu mas o’r Gemau yn gyfan gwbl oherwydd anaf. Radcliffe yw un o athletwyr gorau Prydain erioed, boed ddyn neu ddynes, ond eto mae’r hunllef a ddigwyddodd yn Athen yn gwmwl drosti, gyda’r cyfryngau yn or-feirniadol o’i methiant. Fel gyda Nicole Cooke, mae pob dim yn mynd yn erbyn Radcliffe pan mae’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Fel yn Athen a Sydney, mi fydd amgylchiadau’r marathon a’r rasys hir ar y trac yn ffafrio athletwyr hemisffer y de ac Asia. Os bydd Radcliffe yn gwella o’r anaf ac yn rhedeg, fe allai llwyddiant iddi ddiffinio ei gyrfa, a diffinio’r gemau i dîm Prydain. Ar y trac ac ar y maes mi fydd merched fel Kelly Sotherton, Christine Ohuruogu, Nicola Sanders a Goldie Sayers ar flaen y gad gyda’u gobeithion am ennill medal dipyn yn uwch na’u cyfoedion yng nghampau’r dynion. Ailadrodd llwyddiant Kelly Holmes yn 2004 fydd y nod.

Nid yn aml y mae merched yn cael sylw ym maes chwaraeon. Ail digon sâl yw’r sylw i lwyddiant merched yn y wasg o’i gymharu â’r dynion. Tybed a fydd Gemau 2008 yn ddechrau ar benawdau ffafriol ac ar greu arwyr newydd i ferched ieuainc ein gwlad? Arwyr go iawn i osod esiampl, nid rhai sy’n enwog am fod yn wedjen i bêl-droediwr di-nod. ‘DIOLCH BYTH AM Y MERCHED!’ – pennawd ar gefn papur dyddiol ar 25 Awst 2008, gobeithio.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Bro a Bywyd Kyffin

Ymlaen >

A Warrior's Tale - Dai Smith