Thema dywyll Thema golau

Beethoven i’r byd o Bentrebychan

erthygl-gorffennaf-2020-2117-1025 erthygl-gorffennaf-2020-2117-1025
Adolygiad O ganol mis Mai hyd ddechrau Mehefin cafwyd wyth datganiad gan Llŷr Williams yn cyflwyno pob un o’r 32 o sonatâu a gyfansoddodd Beethoven. Mae Llŷr wedi cyflawni’r gamp anhygoel hon nifer o weithiau yn y gorffennol, ond y tro hwn roedd yn chwarae gartref yn llythrennol. Roedd i fod i gyflwyno’r cyfanwaith mewn gŵyl gelfyddydol yn Guadelajara ym Mecsico, ac er nad oedd hynny’n bosib oherwydd y coronafirws, roedd yr ŵyl a chwmni recordiau Signum Classics yn awyddus i’r prosiect gael ei wireddu. Y canlyniad fu iddynt recordio Llŷr ar ei biano ei hun, gartref, dros gyfnod o bythefnos gan roi’r cyfle i’r byd i gyd glywed y cyflwyniad. Fel llawer o bobl yr ardal rwyf yn ymwybodol o feistrolaeth gerddorol Llŷr er pan oedd yn ifanc iawn. Ond roedd y cyflwyniad hwn yn aruthrol, yn orchest epig ac yntau’n perfformio’r cyfan ar ei gof. Os ydych am werthfawrogi’r gamp y mae newydd ei chyflawni, dychmygwch geisio dringo Eferest ar eich pen eich hun heb na chymorth Sherpa na chefnogaeth unrhyw un arall ychwaith.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-gorffennaf-2020-2115-1024

Hiliaeth – rhaid codi llais

Ymlaen >
erthygl-gorffennaf-2020-2118-1026

Heb ei fai, heb ei eni