Thema dywyll Thema golau

Beth bellach fydd dyfodol Rojava?

erthygl-tachwedd-2019-2010-942 erthygl-tachwedd-2019-2010-942
Yn hongian uwchlaw Rhodfa’r Gorllewin yng Nghaerdydd – wedi’i baeddu gan lygredd yr heol – mae baner lipa ac arni’r geiriau ‘NO WAR ON ROJAVA’. Ple ydyw i osgoi rhyfel – ond un sydd wedi ei hanwybyddu. Enghraifft sy’n cadarnhau hen ddywediad y Cwrdiaid mai eu ‘hunig gyfaill ydi’r mynyddoedd’. Rhy hawdd, fodd bynnag, ydi cyfeirio at y Cwrdiaid fel y bobl a fradychwyd yng nghanol cymhlethdod difrifol Syria. Ar ôl penderfyniad byrfyfyr arall gan arlywydd America i dynnu lluoedd yr Unol Daleithiau o Syria, mae Cwrdiaid gogledd Syria yn wynebu lluoedd Twrci, byddin ail fwyaf NATO. Ar wahân i rodd o dunelli o arfau, cwta fil o luoedd arfog America a oedd yn y rhanbarth p’run bynnag. Yn sicr bydd yr arfau yn cael eu tanio at y Twrciaid a’u cynghreiriaid Islamaidd yr FSA (Free Syrian Army). Dyma eu gelyn pennaf nhw, yn hytrach nag ymladdwyr IS. Yn y rhyfela parhaus a fu yn Syria ers 2011, byddin dramor sydd yn awr yn bygwth cyfnod newydd o ladd, glanhau ethnig a chwalu cymunedau. Mae penderfyniad Donald Trump yn golygu mai llywodraethau Iran, Twrci a Rwsia sy’n rheoli dyfodol Syria.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Tachwedd

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2019-2011-943

Y DUP – cwestiynau lu a chymhlethdodau fyrdd