Thema dywyll Thema golau

Beth ddigwyddodd i ’nghariad cyntaf?

erthygl-mehefin-2021-2236-1137 erthygl-mehefin-2021-2236-1137
Mae’n fis Hydref llwm, a gwynt ffyrnig y Mistral bron â’m chwythu oddi ar y ffordd. Rydw i ar droed, a phentref enwog gyda’i adfail o balas i’w weld yn y pellter. Mae’r coed olewydd bron â gwyro, a lliwiau’r rhesi o winwydd yn fendigedig o seicedelig. Mae fy sach gefn yn drymlwythog o boteli wedi eu casglu o ymweliadau’r diwrnod hwnnw. Rydw i ar fy nhrip gwin cyntaf. Rydw i yn Châteaneuf-du-Pape. Dyna ichi faint oeddwn i mewn cariad efo’r gwin o’r pentref hwnnw, i fynd i’r drafferth o ddal yr Eurostar i Avignon, a’r bws (ysgol!) i Châteauneuf. Gwesty digon sylfaenol yng nghanol y pentref (roedd hyn cyn dyddiau cyfleus Airbnb) ac, oherwydd prinder arian i logi car, ar droed wedyn i’r stadau cyfagos efo cymorth map cywrain a Ffrangeg bratiog. Mae’n teimlo fel oes yn ôl, ac mae hefyd gryn dipyn o amser ers imi werthfawrogi a mwynhau potel o Châteauneuf. Beth aeth o’i le?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2021-2235-1136

O’r paned i’r piano – ysbrydoliaeth y bag te

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2021-2237-1138

Ceir – mwy na ‘lympiau o fetel’