Thema dywyll Thema golau

Binj-wylio

erthygl-chwefror-2022-2313-1205 erthygl-chwefror-2022-2313-1205
Amser maith yn ôl yn fy arddegau, dwi’n cofio gwylio ffilm o’r enw Yanks efo fy ffrind Delyth Pync. Does gen i fawr o gof o’r ffilm ei hun (sy’n ymwneud â chriw o filwyr Americanaidd wedi’u gorsafu mewn tref yng ngogledd Lloegr yn ystod yr Ail Ryfel Byd) ond dwi yn cofio bod Delyth – nad oedd yn bync o ran natur, yn amlwg – wedi’i chyfareddu i’r fath raddau gan y ddrama ramantus nes ei bod yn gegrwth gan siom pan orffennodd y ffilm ar nodyn ansicr. Ar ôl i’r credydau olaf rowlio roedd hi’n dal i rythu ar y sgrîn, yn methu dallt pam na fyddai’r sylwebydd rhwng rhaglenni yn esbonio beth oedd wedi digwydd wedyn, er imi drio’i darbwyllo mai ffilm oedd hi yn hytrach na stori wir. Erbyn heddiw, mewn oes pan mae cyfresi teledu wedi goddiweddyd ffilmiau o ran poblogrwydd, mae’r dyhead ysol hwnnw ymhlith gwylwyr i wybod be sy’n digwydd nesaf yn cael ei brocio a’i ddiwallu gan gyfresi sy’n aml yn mynd ymlaen am sawl ‘tymor’. Y gyfres orau imi’i gweld yn ddiweddar oedd The Tourist ar BBC.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2022-2312-1204

Disgwyl eiddgar am luniau o’r gofod

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Chwefror