Seidr o’r Gororau a gwin gwyn o Libanus sy’n plesio ein colofnydd y tro hwn.
Yn oriau mân y bore mewn tafarn yng nghanol ein prifddinas, dyma gyfaill mynwesol yn rhoi potel o’m blaen gyda’r gorchymyn: ‘Tria hwn – y seidr gorau gest ti erioed’. Am unwaith, roedd o’n dweud y gwir. Cynhyrchydd y seidr oedd Gwatkin, busnes bach teuluol ar fferm yn Abbey Dore, dros y ffin yn Swydd Henffordd, ac ar ôl Gwglo gwelsom fod trip beics yno yn bosibilrwydd cadarn. Da gennyf adrodd nad aeth y syniad gwych yn y dafarn, fel y rhan fwyaf o syniadau gwych mewn tafarndai, yn angof yn sobrwydd trannoeth. Gwta wythnos yn ddiweddarach, roeddem wedi dal y trên i’r Fenni ac wedi beicio’r ugain milltir yno drwy ffyrdd cefn siroedd Mynwy a Henffordd.
Y peth diddorol i ni selogion gwin oedd pa mor agos oedd patrwm cynhyrchu y fferm seidr yn ymdebygu i’r hyn a fyddai’n nodweddiadol o gynhyrchydd gwin o safon uchel. Dim ond seidr a pherai o fathau unigol a wneir, sy’n sichrau bod blas cynhenid yr afal neu’r ellygen ar ôl gwasgu’r ffrwyth yno’n gryf o hyd. Fel y gallech ddisgwyl, mae rhai o’r diodydd yn sych grimp, eraill yn felys a’r lleill yn felys iawn, ond does dim yn cael ei ychwanegu – y syniad yw gadael i natur wneud ei gwaith. Mae’r blasau mae Gwatkin yn llwyddo i’w cael yn bur iawn, gydag arlliw o danin sych a surni’r afal weithiau yn dod i’r amlwg ar yr ôl-flas. Gwelsom y gwahanol fathau o gasgenni a ddefnyddir i aeddfedu, gan efelychu unwaith eto y patrwm cynhyrchu gwin. Daeth rhai o’r casgenni o ddistyllfeydd yr Alban ac o Sbaen gan gynhyrchwyr sieri, a oedd yn ychwanegu blas cynnil at y cynnyrch gorffenedig. Fy ffefryn ohonynt i gyd yw’r Yarlington Mill, afal hynafol sy’n gynhenid i Wlad yr Haf ond a dyfir yn helaeth drwy Swydd Henffordd. Dyma seidr sy’n llawn haeddu ystyriaeth ochr yn ochr â’r gwinoedd gorau, cymaint yw dyfnder a chymhlethdod ei arogleuon a’i flasau.
Daeth fy nhro i gynnal ein noson blasu dall ymysg fy ffrindiau. Fe wyddoch y drefn bellach – pawb yn dod â photel o rywbeth da a diddorol, a’r gweddill ohonom yn mwynhau dyfalu beth ydyw ac o ble y daeth. Mae llawer o selogion Chateau Musar yn ein plith, gwin unigryw o Lebanon ac iddo hanes rhyfeddol – er enghraifft, yn y rhyfel cartref yn Libanus yr 1980au roedd yn rhaid i’r casglwyr grawnwin osgoi bwledi er mwyn dod â’r cynnyrch o’r winllan yn ddiogel. Nodwedd arall ar Musar yw y caiff ei gadw’n ôl a’i ryddhau ar ôl pump i ddeng mlynedd. Efallai fod consensws cryf fod y coch ymysg y goreuon, ond nid felly y farn am y gwyn, a dyna oedd fy ngwin dall i.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
