Syllais ar y sgrin. Es i’r llofft, ac at y bocs o hen luniau ysgol. Roedd y cyntaf a ddaeth i’m llaw o 2003–2004. A dyna Dzhokhar yn y rhes flaen. Wyth oed? Naw oed? Yn sefyll drws nesa i Michael. Ac Eve. O flaen Sam. Fy nosbarth. Es i â’r llun ’nôl at y sgrin deledu. Doedd dim modd osgoi’r gwirionedd. Am weddill y dydd, wrth i fi ddilyn y newyddion, cadwais i’r llun wrth law. Doeddwn i ddim yn gallu deall. Roedden nhw’n dal i sôn am derfysgwr. Dyn arfog a pheryglus. Roeddwn i’n dal i feddwl am y bachgen a ddaeth i’m dosbarth. Yn bryderus. Yn ifanc. Dim Saesneg. Roedd ei wên yn un lydan gan mai dyna’i fodd o gyfathrebu. Gweithiodd mor galed. Rwy’n gallu gweld ei lawysgrifen. Beth ddigwyddodd? Beth aeth o’i le? Sut y gallai’r bachgen yma fod wedi troi’n derfysgwr? Syllais ar y llun a llefain – am ein dosbarth, am fy ysgol. Llefais am yr holl fywydau sydd wedi eu colli ac sydd wedi eu newid am byth. Doeddwn i ddim yn gallu stopio llefain er bod Boston yn bloeddio ei rhyddhad. Alla i ddim teimlo rhyddhad gan nad ydw i’n medru deall sut y digwyddodd hyn.
Dyma eiriau Katie Charner-Laird, prifathrawes yr ysgol a fynychodd fy mhlant pan fuon ni fel teulu yn byw yn ninas Cambridge, Massachusetts y llynedd. Mae Cambridge yn ddinas ryddfrydol sy’n ymfalchïo yn ei system addysg gyhoeddus. System sy’n brolio ei bod yn ceisio meithrin cyfiawnder cymdeithasol o fewn ei hysgolion. Roedd Ysgol Cambridgeport, ysgol Katie, ac ysgol Lowri a Dewi y llynedd, ar y stryd nesa i gartref y brodyr sydd wedi eu hamau o osod y bomiau a fydd yn newid natur Boston a Cambridge am byth. Gyda pholisi bwriadol o sicrhau cymysgu rhwng haenau cymdeithasol, drwy ddosbarthu teuluoedd difreintiedig yn gyfartal rhwng ysgolion y ddinas, mae ysgolion Cambridge yn creu awyrgylch sy’n annog dealltwriaeth, goddefgarwch a thegwch. Mae gwahaniaethau ethnig yn ennyn croeso yn hytrach na gelyniaeth. Mae’r ffaith nad ydw i’n siarad Saesneg gyda’m plant wedi ennyn mwy o syndod yn Abertawe nag a achosodd yn Cambridge.
Wrth glywed enwau strydoedd mor gyfarwydd ar y teledu, a’r heddlu a’r hofrenyddion yn chwilio am y rhai a achosodd cymaint o boen, roeddwn yn darllen geiriau cyfeillion ar eu cyfrifon Facebook, wedi eu cau yn eu cartrefi, yn ceisio cuddio’u hofn rhag eu plant. Roedden nhw wedi eu brawychu gan y bomiau, gan y saethu a’r gwaed ar strydoedd eu dinas. Y peth anoddaf i lawer, fel Katie, oedd ceisio deall sut y gallai system addysg mor ryddfrydol fod wedi bod yn fagwraeth i ddau a ddymunai ddial ar y wlad a oedd yn gartref iddynt. Ac felly, fel y bywydau diniwed a ddinistriwyd gan y bomiau, mae ffawd y brodyr hefyd yn destun galar dwys.
Dyfyniad:
Sut y gallai system addysg mor ryddfrydol fod wedi bod yn fagwraeth i ddau a ddymunai ddial ar y wlad a oedd yn gartref iddynt?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

