Thema dywyll Thema golau

Boris a’r Barwn Botham

erthygl-hydref-2020-2149-1051 erthygl-hydref-2020-2149-1051
Digyfeiriad o bitw a thruenus ar y naw fu prifweinidogaeth Boris Johnson hyd yn hyn. Gwael ac anghyson fu ei arweiniad moesol a meddygol drwy’r pandemig. A dianrhydeddus a didrugaredd fu ei ymwneud â’r uwch weision sifil a adawodd eu swyddi naill ai oblegid gelyniaeth gwleidyddion blaenllaw (yn achosion Philip Rutman a Mark Sidwell) neu yn herwydd eu herfeiddiwch gwrthgyfreithiol (yn achos Jonathan Jones). Prin y gall hyd yn oed ei gefnogwyr mwyaf cibddall ar y meinciau cefn ddweud ei fod hyd yn oed yn chwarter llwyddiant yn y swydd y bu’n dyheu amdani – efallai – erioed. Beth sydd a wnelo hyn â cholofn chwaraeon? A wyf i’n blysu ysgrifennu erthygl flaen Richard Wyn Jones? Nac ydwyf. Wel, ddim eto, Olygyddion hoff! Y mae a wnelo Mr Johnson â’r golofn chwaraeon hon am ei fod, ar 10 Medi, wedi codi Ian Botham i Dŷ’r Arglwyddi. Botham druan. Er gwaethaf ei fombast ymddangosiadol, bydd ar goll yno.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2020-2148-1050

Wylfa Newydd – ergyd i economi Môn

Ymlaen >
erthygl-hydref-2020-2150-1052

Y portreadau sy’n pontio amser