Thema dywyll Thema golau

“Brenhines ein Llên”


Wnes i erioed gyfarfod Maeve Binchy, ond fel miliynau o bobl rownd y byd, dwi’n teimlo mod i’n ei hadnabod hi. Ac ar ôl ei marwolaeth, yn 72 oed, roedd hi’n amlwg wrth ddarllen toreth o deyrngedau gan bob math o bobl – enwogion yn y papurau ac ar y cyfryngau a ffans anhysbys ar y We – fod pobl yn teimlo eu bod nhw wedi colli ffrind – ffrind cynnes, doeth a doniol.

Efallai nad ydy ei nofelau yn rhai uchel-ael llenyddol, nac yn ddeunydd gwobr Nobel, ac yn sicr dydyn nhw ddim at ddant pawb. Ond fel y dywedodd yr Arlywydd Michael D. Higgins, roedd hi’n storiwraig heb ei hail. Gwerthwyd 40 miliwn o gopïau o’i nofelau dros y byd, ac fe’i cyfieithwyd i 42 o ieithoedd. Gwahanol iawn, iawn oedd sefyllfa ariannol Maeve Binchy i un Brenhines Llên Cymru, Kate Roberts.

Ond yn Iwerddon nid nofelydd poblogaidd a llwyddiannus yn unig oedd hi. Roedd hi hefyd yn berson yr oedd y genedl yn ei charu a’i hedmygu – yn drysor cenedlaethol. Cyn troi at sgwennu ffuglen, bu Maeve Binchy yn athrawes. Yna treuliodd gyfnod yn gweithio at kibbutz yn Israel ac mewn gwersylloedd plant yn America. Roedd ei theulu’n meddwl bod ei llythyrau adre mor ddifyr nes iddyn nhw eu hanfon at yr Irish Times. Dyna oedd cychwyn ei gyrfa fel newyddiadurwraig a cholofnydd. Aeth i weithio fel gohebydd i’r papur yn Llundain. Yno cyfarfu â’i g?r, Gordon Snell, awdur poblogaidd straeon plant. Tra yn Llundain dechreuodd Maeve sgwennu straeon byrion.

Fe gafodd ei nofel gyntaf Light a Penny Candle ei gwrthod gan hanner dwsin o gyhoeddwyr cyn cael ei derbyn a dod yn llwyddiant ysgubol, byd-eang. Yn ôl pawb a oedd yn ei hadnabod, wnaeth llwyddiant newid dim arni hi o gwbl. Roedd yn hoff iawn, medde hi, o un o ddywediadau Coronation Street sef ‘oh, get over yourself’. Yn wir roedd hi’n un o ffans mwyaf Corrie, ac wrth ei bodd gyda’r bennod lle mae Ken Barlow, deallusyn Wetherfield, yn ymateb gyda braw a diflastod pan adawodd ei fam-yng-nghyfraith, Blanche, swp o nofelau Binchy iddo yn ei hewyllys.

Roedd hi’n hynod o hael ei chyngor a’i hamser i ysgrifenwyr ifainc. Ei phrif gyngor oedd bwrw mlaen a pheidio digalonni yn wyneb methiant. Hyd yn oed pan oedd hi’n nofelydd llwyddiannus, doedd hi ddim yn gorffwys ar ei rhwyfau. Roedd hi wastad yn sgwennu’r peth nesaf. Pan gafodd drama gyntaf Douglas Kennedy ei cholbio gan y beirniaid, ac yntau’n llawn hunan-dosturi, aeth Maeve â fo allan am ginio. ‘Rwan ta,’ meddai hi wrtho fo, dros yr ail botel o win, ‘wrth gwrs dydy profiadau fel hyn ddim yn neis. Ond be wnei di ond mynd nôl i weithio? Beth wyt ti am ei sgwennu nesa?’ Ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan lwyddodd Kennedy i gyhoeddi ei nofel gyntaf, aeth Maeve â fo allan am ginio eto. Atgoffodd ef hi o’i chyngor. ‘Wel ia, dyna ti,’ medde hi, ‘beth wyt ti am sgwennu nesa?’

Fe ymddeolodd hi yn 60 oed, ond ‘wedyn fe sylweddolais nad oedd rhaid i nofelydd ymddeol,’ felly ailgydiodd yn y sgwennu ac aeth ymlaen i gyhoeddi rhagor o nofelau. Er ei bod mewn iechyd gwael yn ei blynyddoedd olaf , yn diodde’n enbyd o grydcymalau, ac o broblemau â’i chalon, doedd hi byth yn cwyno. Dalia i fwynhau pethau da bywyd. Byddai hi’n mynd i gael cinio a gwydriad neu ddau o win bob dydd gyda ffrindiau yn y dafarn leol rownd y gornel o’i chartref yn Dalkey. Byddai hi a Gordon, a sgwennai ochr yn ochr â hi mewn swyddfa yn atig y t?, yn cael gwydriad o siampaen am 11 bob bore.

Nid am yr arian yr oedd hi’n sgwennu, ond oherwydd ‘chwant plentynnaidd i ddweud stori’. Roedd hi’n enwog am fod yn hael efo’i harian. Pan gyhoeddwyd Light a Penny Candle yn 1982, derbyniodd £60,000. Fe gadwodd hi hanner yr arian a rhoi £5,000 yr un i chwech o bobl yr ystyriai hi eu bod angen y pres. Yn wahanol i lawer iawn o ysgrifenwyr, wnaeth hi erioed gymryd mantais o’r ddeddf a gyflwynwyd gan Charles Haughey sy’n esgusodi artistiaid rhag gorfod talu treth ar eu cynnyrch celfyddydol. Roedd hi’n teimlo nad oedd arni hi angen yr arian a bod hi’n ddyletswydd arni i dalu ei threthi.

Daeth y gwladgarwch ymarferol yma i’r amlwg eto pan oedd cynhyrchydd yn Efrog Newydd eisiau gwneud ffilm o un o’i nofelau. ‘Iawn,’ meddai Maeve, ‘cyn belled â bod y ffilm yn cael ei gwneud yn Iwerddon.’ Gan feddwl mai eisiau mwy o arian yr oedd hi, fe gynigiodd y cynhyrchydd ragor iddi. Yr un oedd ateb Maeve. Doedd hi ddim angen yr arian, ond roedd hi’n dymuno rhoi hwb i’r diwydiant ffilm yn Iwerddon.

Yn ôl y nofelydd Marian Keyes, roedd Maeve Binchy yn gyfrifol am fwy na sgwennu storïau da – roedd hi’n gatalydd i newidiadau cymdeithasol yn Iwerddon. Ar adeg pan oedd y wlad o dan reolaeth batriarchaidd yr Eglwys Babyddol, roedd hi’n gyfrifol am sgwennu straeon am fywydau bob dydd merched cyffredin ar gyfer merched cyffredin. Trwy hynny gwnaeth iddyn nhw deimlo bod eu bywydau nhw’n ddiddorol a phwysig a gwerthfawr.

Hi hefyd, meddai Marian Keyes, oedd yr awdur poblogaidd cyntaf i sgwennu mewn Saesneg ‘Gwyddelig’. Mae’r Saesneg a siaredir yn Iwerddon yn wahanol i Saesneg Lloegr. Yn ôl Marian Keyes, mae’r brawddegau dipyn yn od: mae mymryn mwy o addurn a lliw a rhamant – mwy o ‘or-ddweud’ rhywsut yn yr arddull. Pan oedd hi’n tyfu fyny, meddai Marian Keyes, roedd hi’n casáu popeth Gwyddelig. Roedd hi’n teimlo bod popeth Gwyddelig – y miwsig, y teledu, y llyfrau – yn gopïau gwan o bethau Seisnig neu Americanaidd: ‘Ac yna fe ddechreuodd Maeve sgwennu ei nofelau Saesneg-Wyddelig. A chyn belled ag yr oeddwn i yn y cwestiwn, fe achubodd Maeve yr iaith.’

Os ydy hyn i gyd yn gwneud iddi swnio fel dipyn o sant, roedd Binchy ei hun yn ymwybodol o’r perygl hwnnw. Gwnâi hwyl am ei phen ei hun. Pan oedd hi’n eneth, roedd hi’n ysu am fod yn sant, meddai hi – ond nid sant oedd yn gorfod diodde’ neu farw dros ei ffydd. Roedd ganddi ofn cael gweledigaeth debyg i un y Santes Bernadette neu’r plant yn Fatima. Gan hynny byddai’n osgoi edrych fyny i’r coed rhag ofn iddi weld y Forwyn Fair yn galw arni.

Roedd hi hefyd yn enwog am fod yn hael ei hamser efo’i ffans. Fe glywais i hi ar y radio yn adrodd hanes dynes reit benderfynol a siaradus o’r Iseldiroedd a ddaeth at ddrws ei th? yn Dalkey yn Nulyn un tro. Doedd dim amdani ond gwahodd y ddynes i mewn, a bu Maeve yn sgwrsio’n gwrtais â hi am sbel, cyn sylweddoli nad oedd y ddynes erioed wedi darllen gair o’i llyfrau. 

Mae’r llyfrau hynny’n trin themâu tragwyddol fel cyfeillgarwch, problemau teuluol, cariad, anawsterau bywyd a sut mae pobl yn eu goresgyn. Fel yr awdur ei hun, mae’r nofelau’n llawen ac yn heulog, ac yn dwyllodrus o gelfydd. Maen nhw’n rhy ysgafn ac yn rhy felys at ddant rhai. Ond mae eu hapêl eang yn ddiamheuol. Ni ellir ond dathlu’r person a’r bersonoliaeth a’u creodd.

Fe gafodd Maeve Binchy ei hun, meddai hi, blentyndod hapus, a bywyd hapus: ‘Dim alcoholiaeth na thlodi nac anhapusrwydd mawr’. Roedd ei methiant i gael plant yn destun tristwch mawr iddi, ond doedd hi byth bron yn siarad am hynny. Pan ofynnwyd iddi un tro ar raglen deledu ddiwylliannol andros o bwysig yn Ffrainc beth oedd ei hathroniaeth bersonol hi, fe roddodd, meddai hi, ateb parod: ‘Rhaid ichi chware’r cardiau y mae bywyd wedi eu delio ichi, a pheidio â deisyfu rhai eraill’. Roedd ganddi ofn, meddai, y byddai’r meddylwyr mawr Ffrengig yn chwerthin am ben ei hateb syml. Does neb yn fwy o snob trahaus na deallusion Ffrainc. Ond er mawr syndod iddi, nodio’n werthfawrogol wnaethon nhw ac edmygu ei doethineb.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Coalas, Cangarwod a Choed

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Y Gwych a’r Gwachul