Thema dywyll Thema golau

Bro a Bywyd Kyffin

Hawdd ydi dychanu’r math o Gymry goludog sy’n prynu lluniau Kyffin wrth y llath – yn enwedig y rheiny nad oes ganddyn nhw’r chwaeth na’r hyder i brynu gweithiau affliw o neb arall heblaw am Kyffin. Yn union fel y pwdin yn yr hen ddihareb, gormod o Kyffin ar waliau un ty nid yw’n dda.

Ond nid bai Kyffin mo hynny. Yn wylaidd ond yn dreiddgar arferai Kyffin esbonio ei fod o wedi bod yn ffodus i gydoesi â’r dosbarth canol proffesiynol Cymraeg a ymgyfoethogai wrth i ail hanner y ganrif ddiwethaf fynd rhagddi. Yn blant i werinwyr diwylliedig ond materol ddifreintiedig , plant a ddaeth yn uwch weision sifil a chyfreithwyr a bancwyr, roedd gan y rhain y modd, am y tro cyntaf, i brynu gweithiau celf gwreiddiol. (Yn hytrach na phrintiadau o Salem, neu Lloyd George, neu gewri’r pulpud anghydffurfiol.) Tarodd delweddau Kyffin dant yng nghalonnau’r prynwyr-celf-tro-cyntaf hyn. Dyna ddaru sicrhau, yn ôl haeriad Kyffin ei hun, mai ef fyddai’r artist Cymreig cyntaf erioed i allu gwneud bywoliaeth o’i baentio heb orfod gadael Cymru.

Wrth ddwyn eich sylw at y gyfrol hon dichon y dylwn fod wedi manylu ar hynodrwydd rhai o’r 300, bron, o ddelweddau a atgynhyrchir o fewn i’w chloriau cain. Bodlonaf yn hytrach ar ddatgelu bod y gyfrol hon yn profi mai yn y Gymraeg y llythyrai Kyffin â rhai o’i gyfeillion. Tan r?an rydw i wedi bod yn amheus o afael Kyffin ar y Gymraeg. Er mor hynaws oedd o bob amser, wnaeth o erioed ganiatáu i mi na neb arall ei holi yn y Gymraeg ar gyfer teledu na radio. Ond, yn amlwg, roedd o’n medru’r iaith...

Ac, erbyn meddwl, heb y Gymraeg, go brin y byddai Kyffin wedi gallu ennyn cydweithrediad a chydsyniad rhai o’r gwerinwyr uniaith i bob pwrpas y daeth o i’w hadnabod – a’u hanfarwoli – mewn Môn, Llyn ac Eryri nad ydynt yn bod bellach y tu allan i’w luniau. Ai’r hiraeth llwythol hwnnw, tybed, yw’r cynhwysyn cyfrin yng nghreadigaethau hynod Kyffin Williams? Am wledd amheuthun, diolch Kyffin, diolch David a diolch Barddas.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Tsieina a'r Byd

Ymlaen >

Becker-gate......a mwy