Thema dywyll Thema golau

Bww Mewnfudo Grr

 ‘Mewnfudo’ yw un o’r geiriau hynny sydd â rhyw werth cysylltiedig ganddo, fel ‘democratiaeth’ a ‘rhyddid’. Pan ddefnyddir y geiriau hyn mae barn ymhlyg ynddynt, fel ‘democratiaeth’, sy’n beth da bob tro, bron. Ffordd o wneud rhywbeth yw democratiaeth, dyna i gyd. Ond awgrymir yn isymwybodol ei fod yn ffordd dda o wneud pethau – y ffordd orau, hyd yn oed. Ac i’r gwrthwyneb, mae ‘mewnfudo’ yn beth drwg. Bwwww, mewnfudo. Dydyn ni ddim yn hoffi mewnfudo. Grrr.

 Digon tebyg nad ydych chi’n fewnfudwr (rydym yn brin yn y byd Cymraeg), felly mae’n bosibl na wyddech fod y drefn fewnfudo wedi newid yn 2008. Dyna broblem pan mae mewnfudo’n rhan o’r drafodaeth wleidyddol: ?yr mwyafrif y bobl ddim am yr hyn y maen nhw’n siarad amdano. Y gwleidyddion yn enwedig. Fel arfer, yr unig beth a wyddant ydi beth maen nhw’n ei deimlo, sef bod gormod o fewnfudwyr. Bww, mewnfudo. Dydyn ni ddim yn hoffi mewnfudo. Grrr.

 A’r teimlad hwn yw sail polisi’r Ceidwadwyr. Yn ôl gwefan swyddogol y Blaid Geidwadol: ‘We will introduce an annual limit on the numbers of non-EU economic migrants allowed to work here.’

 Does dim sôn am newid y drefn, dim ond y maint. Ar hyn o bryd mae gan Brydain drefn wedi’i seilio ar bwyntiau. Hynny yw, rhaid cael rhif penodol o bwyntiau i gael teitheb. Ond beth yw’r pwyntiau hyn? Sut enillir nhw? Wel, ceir ychydig o bwyntiau am siarad Saesneg. Ac ychydig mwy am gael addysg (ychydig mwy fyth os cawsoch yr addysg ym Mhrydain). Ond daw’r mwyafrif o bwyntiau o’ch oedran a’ch sefyllfa ariannol. Os ydych yn ifanc a chyfoethog, cewch deitheb. Mae polisi mewnfudo Prydain fel petai wedi ei greu gan MTV.

 Does dim pwyntiau i’w cael am yr awydd i fod yn aelod cyfrannol o’r gymuned, nac am fod eisiau ychwanegu at bethau mewn ffordd bersonol / emosiynol. Faint o Geidwadwyr sy’n siarad Cymraeg, tybed? David Cameron, er enghraifft – glywsoch chi erioed air o Gymraeg ganddo? Rydw i’n rhugl yn y Gymraeg; pa un ohonom ni, felly, a fuddsoddodd fwyaf yng Nghymru? Ond p’un ohonom ni sy’n poeni y caiff ei gicio allan o Brydain ym mis Ionawr pan ddaw ei deitheb i ben?

 Trefn Llafur yw hyn i gyd ac maent wedi addo i’w pharhau. ‘A future fair for all.’ Ac os oes eisiau tystiolaeth fod ‘mewnfudo’ yn air drwg, does dim ond angen edrych ar wefan Llafur lle maent yn cynnwys mewnfudo yn yr un rhan â throsedd. Bww, mewnfudo. Dydyn ni ddim yn hoffi mewnfudo. Grrr.

 Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, o leiaf mae awgrym y bydd ffocysu mewnfudo yn yr ardaloedd sydd ei eisiau a’i angen. Hynny yw, byddai person yn cael teitheb i fyw mewn ardal benodol yn y DU. Ond pwy fyddai’n gwneud y penderfyniad hwn? Ac a oes ots os na newidir gweddill y drefn i beidio â chanolbwyntio cymaint ar gyfoeth?

 Yn olaf, mae’n eithaf sicr na fydd Plaid Cymru’n rheoli Prydain yn y dyfodol agos. Sy’n iawn, oherwydd does dim polisi mewnfudo i’w ganfod ar eu gwefan, ar wahân i’r datganiad amwys hwn: ‘Fel cenedl groesawgar, mae Plaid Cymru yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr mewnfudwyr i Gymru. Mae ein cenedlaetholdeb sifig yn dathlu goddefgarwch, cyd-ddeall a dathlu gwahaniaethau. Yr ydym yn condemnio’r sgorio pwyntiau a ddefnyddir gan bleidiau eraill a’r ymgreinio i ragfarnau senoffobaidd di-sail yn y ddadl ar fewnfudo.’

 Da iawn. Chwarae teg iddyn nhw. Ond beth olyga hynny mewn termau go iawn? Wn i ddim. Nid polisi yw’r datganiad yna, ond athroniaeth. Syniad ydyw, nid gweithrediad. Fel mewn cynifer o achosion (trenau, deddfau iaith), mae’n haws i Blaid Cymru ddweud rhywbeth na’i wneud.

 Felly, llongyfarchiadau ar eich llywodraeth newydd. Rydw i’n si?r y bydd y dyfodol yn wych. Ond wn i ddim a fyddaf i’n rhannu’r dyfodol hwnnw gyda chi.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Materion y Mis - Y Gân a’r Geiniog

Ymlaen >

Hen Wlad Fy Nhadau’n Wynebu Newidiadau