Thema dywyll Thema golau

Bwydo’r Adar

Adar y To yn eistedd ar ffens mewn eira Adar y To yn eistedd ar ffens mewn eira
Roeddwn i’n ei weld yn rhywbeth eithriadol o annwyl y tro cyntaf hwnnw. Dw i’n cofio deud wrth ffrind ei fod o ‘mor ciwt’. Ein Nadolig cyntaf fel cwpl a ninnau ond yn byw efo’n gilydd ers deufis. ‘Cofia roi dy hosan i grogi iddo fo gael ei llenwi hi.’ A finna’n chwerthin, a Steve yn mynnu ’mod i’n dewis hosan reit fawr a’i gosod hi wrth droed y gwely. Ac yn y bore mi oedd hi’n llawn. Yr union siocled roeddwn i’n ei hoffi, yr union fasgara roeddwn i wedi bod isio’i brynu ond yn peidio oherwydd ei fod o’n ddrud a bod gen i diwb o beth rhad ar ei ganol a bod hwnnw’n ’neud y tro yn iawn. Roedd rheini’n plesio mwy na’r gadwen fach aur, er bod honno’n eithriadol o dlws, ac wedi costio lot mae’n siŵr. Mae pethau sydd yn profi bod rhywun yn gwrando arnoch chi, yn eich nabod chi, yn anrhegion pwysig iawn. Sgarff sidan efo lluniau Adar y To arno fo.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Ffrâm o fideo gan Carolina Caycedo, Fuel to Fire, 2023

Y degfed Artes Mundi

Ymlaen >
Llun o Cefin Roberts a chlawr ei hunangofiant

Dweud ei ddweud – holi Cefin Roberts