Thema dywyll Thema golau
Gwledda heb orwario
Bydded goleuni – adolygiad o arddangosfa Cerith Wyn Evans
Gaynor Hosan

Bydded goleuni – adolygiad o arddangosfa Cerith Wyn Evans

StarStarStar/Steer (Transphoton) V a phase shifts (after David Tudor) StarStarStar/Steer (Transphoton) V a phase shifts (after David Tudor)
Ym mwrllwch diwedd y flwyddyn mae mawredd y darnau celf yn oriel Mostyn yn codi’r ysbryd. Mae maint a sylwedd gwaith Cerith Wyn Evans yn gwbl ddyrchafol ac yn meddiannu’r gofodau arddangos. Er bod yr artist amlgyfrwng, sy’n hanu o Lanelli, wedi arddangos ledled y byd, y syndod yw mai dyma’i sioe unigol gyntaf yng Nghymru a’r fwyaf, hyd yma, o’i waith yng ngwledydd Prydain. Y symbolau ….)( yw ‘teitl’ yr arddangosfa yn Llandudno a heblaw un panel esboniadol does dim labeli ar y waliau. Rhaid codi’r daflen sy’n cynnwys map er mwyn cael arweiniad. Efallai nad oes angen na theitl na labeli i fynd i’r afael â’r gwaith ar y cychwyn, ond mae darllen y daflen yn nes ymlaen yn cyfoethogi’r profiad. Wrth gerdded drwy’r fynedfa mae golau LED tair colofn dal yn denu’r llygaid. Maen nhw’n ymddangos fel petaen nhw’n sefyll ond twyll ydi hynny gan fod y tair yn hongian o’r to. Bob yn dipyn, o’r llwm i’r llachar, maen nhw’n goleuo.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Pryd o fwyd yn Ultracomida, Aberystwyth

Gwledda heb orwario

Ymlaen >
Goleuadau Nadolig

Gaynor Hosan