Thema dywyll Thema golau

Bydoedd yn cwrdd – gwaith Ceri Pritchard

erthygl-ebrill-2020-2066-995 erthygl-ebrill-2020-2066-995
Agorwyd ysgol uwchradd newydd sbon yn Llangefni yn 1953. Roedd yn amlwg mai bwriad yr awdurdodau oedd llenwi’r sefydliad hwnnw â gwaed newydd – pobl o’r tu allan i Ynys Môn. E. D. Davies a benodwyd yn brifathro, Ernest Zobole yn athro Celf, Bobi Jones i ddysgu’r Gymraeg, a Gwilym Prichard yn athro Crefft. Roedd Gwilym, a hanai o Lanystumdwy, wedi cymhwyso fel athro celf yn y Coleg Normal cyn mynd ymlaen i arbenigo mewn crochenwaith a gwehyddu yng Ngholeg Celf Birmingham. Yn ystod ei arhosiad yn Birmingham y priododd â’r artist Claudia Williams, ac y ganwyd mab iddyn nhw. Ceri oedd y mab hwnnw. Daeth y teulu i fyw i Langefni a rhentu fflat bychan uwchben Siop Bapur Guest ar y Stryd Fawr cyn symud i dŷ cyngor newydd ar stad Pencraig oddi ar lôn Penmynydd. ‘Dwi’n cofio Pencraig yn iawn,’ meddai Ceri, ‘a dwi’n cofio siâp Melin y Graig, Llangefni, yn glir. Mae gen i gof eithriadol am siapiau. Dwi wedi defnyddio’r siâp hwnnw mewn nifer o beintiadau.’

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-ebrill-2020-2065-994

Prifysgol Abertawe – cyfannu’r cenedlaethau

Ymlaen >
erthygl-ebrill-2020-2067-996

Llwyfan y pum G