Thema dywyll Thema golau

Bywyd ar ôl Wylfa Newydd

erthygl-tachwedd-2020-2159-1061 erthygl-tachwedd-2020-2159-1061
Nid syndod oedd darllen sylwadau John Idris Jones (BARN, Hydref 2020) am benderfyniad Hitachi i roi’r gorau’n llwyr i’w cynllun i godi dau adweithydd niwclear enfawr yn yr Wylfa, ac yntau’n un a fu’n rhan o’r diwydiant niwclear ar hyd ei yrfa. Roedd y penderfyniad yn anochel gan nad oedd Hitachi yn fodlon defnyddio’u cronfeydd sylweddol eu hunain fel cwmni i dalu am y gwaith adeiladu. Pa ddisgwyl wedyn oedd i fuddsoddwyr eraill dalu am y dechnoleg fudr, beryglus, hen ffasiwn ac eithriadol ddrud hon? Nid dyma’r enghraifft gyntaf o roi’r gorau i gynllun adeiladu niwclear. Tynnodd NuGen, sef partneriaeth rhwng Toshiba ac Engie o Ffrainc, allan o gynllun i adeiladu adweithyddion AP1000 Westinghouse, ar safle Moorside drws nesaf i Sellafield, oherwydd diffyg diddordeb gan unrhyw un i fuddsoddi. Diddorol hefyd yw nodi gwrthwynebiad gwleidyddol cynyddol gan gynghorau yn Suffolk ac Essex i gynlluniau Sizewell C a Bradwell B, dau gynllun y mae gan gorfforaeth niwclear wladwriaethol Tsieina ddiddordeb ynddynt. Felly, beth nesaf?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2020-2157-1060

Tynged iaith

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2020-2160-1062

Rhoi ‘Maniffesto Crist’ ar waith