Thema dywyll Thema golau

Caffis Cymru: Pantri Blakeman, Caerfyrddin

Emyr Evans

Dros y ffordd o orsaf bysiau Caerfyrddin cewch groeso twymgalon a bwyd blasus di-lol gan y perchnogion mewn bwyty sy’n gyrchfan cymdeithasol poblogaidd yng nghanol y dref.

Mae Caerfyrddin yn gawdel o dre lle mae adeiladau modern yn bwrw’u talcen ar yr hen. Does dim o gwrteisi’r bensaerniaeth Sioraidd a welir yn Llandeilo i’w weld yma ond mae adlais hynafol, a chraidd yr hen dre yn sefyll yn gyfan gwbl ar ei sylfeini canoloesol. Yng nghanol y perfedd ieir yma o strydoedd mae Pantri Blakeman yn Heol Las, ar gornel Bull Lane, yr hen lôn gul a ddefnyddid gan fasnachwyr ganrifoedd yn ôl. Dyw e ddim yn amlwg o gwbl, mwy fel ogof o fwyty mewn lloft uwchben siop garpedi.

Wedi dringo’r star i’r bwyty mae’r awyrgylch bwriadus Gymreig yn eich taro’n syth: murlun mawr o Gastell Dryslwyn, ryseitiau fel ‘Cawl Mam-gu’ ar y mur a’r peth mwya rhyfedd: dol mannequin anferth mewn het uchel, siôl, pais a betgwn. ‘Ma’ honna’n gweitho’n galetach na ti!’ rhuodd Moyra ataf am y ddol ryw dro.

Moyra Blakeman ydy perchennog y bwyty, ac mae hi a’i chwaer, Carol (y brif gogyddes), yn rhan o gyfaredd parhaol y Pantri. Mae Moyra’n siarad mewn datganiadau, gyda’r ffraethineb yn tasgu hyd y lle a’r cwsmeriaid yn mwynhau pob eiliad o’r tynnu coes. Siarad parod cegin ffarm a glywir yn y pantri beth bynnag fo’ch tras a’ch cefndir. Cofiaf fod yno rywdro a Saeson urddasol iawn ar y ford gyferbyn â mi. Roedden nhw wedi gorffen eu saig ac nawr yn rhyw baratoi at symud. Wele Moyra yn dod fel mellten atynt, ac efallai byddid yn disgwyl rhyw grafu fel ‘Did you enjoy your meal?/Was everything satisfactory?’. Ond na. Gwên fawr gawsant gan Moyra wrth iddi edmygu eu platiau gwag a bloedd o gwestiwn: ‘ALL GONE?’ Dyna hanfod yr awyrgylch, a rhan o’r bodlonrwydd sydd wedi rhoi’r Pantri ar frig y rhestr o fwytai tref Caerfyrddin ar wefan TripAdvisor.

A beth am y bwyd ei hun? Bwyd cartref blasus a weinir yma, wedi ei baratoi yn ffres. Fyddai na Moyra na Carol yn ystyried trefnu rhyw ddiwyg rhwysgfawr ar y prydau bwyd. Dim hen faldod, ond safon a blas. Mae’r ffefrynnau Cymreig yn cael eu lle, fel cawl, cocos lleol (£3.35), bara lawr (£3.95) a brithyll (£4.75). Ceir pob math o brydau pasta, omledau a byrbrydau, ac mae pob pryd o dan £5.00. Un o’r uchafbwyntiau ydy’r cwpwrdd gwydr yn llawn danteithion melys amrywiol (£2.80, pob un), gyda phopeth yn hyfryd ac wedi ei baratoi ar y safle...



Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Rhagori ar Roy of the Rovers

Ymlaen >

Dolig gwyn Dol’ddelan