Mae gan bob caffi ei gymeriad a’i gleientèl ei hun a hynny’n newid gyda’r blynyddoedd. Rhaid cyfaddef fy mod yn ychydig o butain caffis ac yn ymweld â gwahanol rai o bryd i’w gilydd, ond yr un dwi’n ei ystyried yn gartref ac yn angor yng nghanol byd sy’n newid yn lot rhy gyflym yw’r Caban, neu a rhoi iddo ei enw swyddogol The Cabin Coffee Bar, yn Heol y Wig.
Dechreuais goffïa yma pan oeddwn yn fyfyriwr. Bryd hynny roedd y lle yn denu’r drama types a’r am-drams. Roedd Roy yn annog hynny wrth addurno’r lle â darluniau o sêr Hollywood yr oes aur. Yn raddol, wrth i’r Hen Goleg wacáu o fyfyrwyr a darlithwyr, daeth yn gartref i’r lleng o weinyddwyr sydd yn hanfodol ar gyfer unrhyw sefydliad addysg uwch gwerth ei halen. Bellach mae’r rheini yn symud i diroedd brasach, gan adael y lle yn bennaf i academyddion sydd wedi ymddeol a chyn-fyfyrwyr sy’n methu gadael ac yn gweithio i rai o sefydliadau eraill y dref.
Un gr?p arall sy’n rhan annatod o fywyd y Caban yw’r gwleidyddion, neu wleidyddion ac ymgyrchwyr cenedlaetholgar a bod yn fanwl gywir, gan fod swyddfeydd Plaid Cymru Ceredigion a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg lai na thafliad carreg o’r fan. Efallai nad oes i’r Caban le mor amlwg yn y chwyldro â Chaffi Home yn yr un stryd, ac eto bu’n ddeorfa i lawer cynllwyn ar hyd y blynyddoedd.
Ceir y dewis arferol o ddiodydd (Americano mawr £2, Te mawr £1.50) ac o ran bwyd ceir rholiau (£2–£2.30) gyda dewis eang o gynhwysion. Os am rywbeth bach yn fwy sylweddol gellir cael salad cymysg gyda chaws, hwmws neu gig (£3.50–£4.90) neu gawl a thato pob pan fo’r tywydd yn oer. Lle i hamddena a thrafod yw’r Caban; chewch chi byth y teimlad yno fod yn rhaid llowcio’ch coffi.
Lle perffaith i wylio pobl yn mynd heibio a sylwi’n arbennig ar bwy sy’n galw i mewn i’n siop ryw leol Naughty but Nice sydd gyferbyn. Lle i gael eich gweld neu weld rhywun arall. Pan fo dyn wedi diflasu ar fywyd gall wastad alw heibio i’r Caban am sgwrs ddifyr neu ddadl danbaid, neu hyd yn oed wrando ar rai pobl eraill.
Y CABAN, 21b Heol y Wig, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2LN
Ffôn: 01970 615119
Oriau agor: 8.30am–5.30pm, Llun – Sadwrn; 10am–4.30pm, Sul
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
