Thema dywyll Thema golau

Campwaith y bererindod olaf

Côr a cherddorfa Côr a cherddorfa
Breuddwyd Gerontius, perfformiad yn Neuadd Pritchard Jones, Bangor, 8 Mehefin 2025. Llun: Cantorion Menai

Bu perfformiad ym Mangor y mis diwethaf o’r gwaith corawl a ddaeth ag Elgar i amlygrwydd, ac yn ôl GERAINT LEWIS roedd yn un bythgofiadwy.

Nid ar chwarae bach y mae neb yn perfformio’r campwaith corawl Catholig Breuddwyd Gerontius o waith Edward Elgar. Gyda 2025 wedi’i ddatgan yn flwyddyn Jiwbilî yn yr Eglwys Gatholig fyd‑eang a Gerontius ei hun yn dathlu Pumed Jiwbilî ei berfformiad cyntaf ar 3 Hydref 1900 yn Neuadd y Dref, Birmingham, roedd yn addas fod perfformiad o’r gwaith yn Neuadd Prichard‑Jones, Bangor, ar y Sulgwyn eleni. Yno roedd Cantorion Menai a’u harweinydd Gwyn L.Williams yn ymuno ag Undeb Gorawl Cymry Lerpwl, rhai o aelodau Côr Cadeirlan Bangor ac o Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol ynghyd ag ambell offerynnwr gwadd disglair. Roedd PJ dan ei sang ar gyfer y perfformiad, a oedd hefyd yn cynnwys yr unawdwyr arbennig Gwyn Hughes‑Jones, David Kempster a Leah‑Marian Jones. Roedd y perfformiad cyntaf hwnnw yn 1900 yn drychineb enwog ac felly gwych yw datgan bod un Bangor 2025 yn llwyddiant campus.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Clawr CD sy'n cael ei hadolygu

Grace Williams

Ymlaen >

Perfformiad prin i gampwaith operatig