Efallai fod dros ddwy fil o filltiroedd o gefnfor yn gwahanu Canada a’r Undeb Ewropeaidd, ond maent yn prysur glosio at ei gilydd. Mewn araith yn Strasbourg fis Medi – lle’r oedd Prif Weinidog Canada, Mark Carney, yn westai rhes flaen – cyhoeddodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, ei bod am agor y drws i Ganada ddod yn aelod ‘cysylltiol’ o’r Undeb.
Does gan yr Undeb ar hyn o bryd yr un aelod ‘cysylltiol’, ac mae pendroni mawr ym Mrwsel beth yn union y mae hynny’n ei olygu. Ond mae gwahoddiad von der Leyen yn syniad beiddgar a digynsail sydd wedi deffro’r dychymyg ar draws y byd.
Y dyn yn y Tŷ Gwyn, Donald Trump, ydi’r catalydd. Mae Canada wedi dod yn brif darged rhyfel masnach yr Arlywydd, ac yn wynebu tariffiau poenus o dros 50% ar rai cynhyrchion. Mae Trump hefyd wedi bygwth gwneud y wlad yn 51fed talaith yr Unol Daleithiau, gan achosi pryderon dwys yng Nghanada ynghylch diogelwch a sofraniaeth y wlad.
Yr ateb yng ngolwg y Prif Weinidog Mark Carney ydi adeiladu partneriaethau cryfach hefo gwledydd sy’n rhannu’r un daliadau a’r un weledigaeth â Chanada, sef parch at reolau a chyfraith ryngwladol, ac at ddemocratiaeth. Wrth ymateb i gynnig von der Leyen yn y Senedd yn Strasbourg fis Medi, disgrifiodd Carney Ewrop a Chanada fel dau floc oedd yn fwy tebygol o wrthsefyll ‘stormydd newydd’ os ydyn nhw’n sefyll hefo’i gilydd (cyfeiriodd at yr argyfwng hinsawdd, rhyfeloedd masnach a chwymp democratiaeth).
Plannodd Carney hedyn y syniad yn ôl ym mis Ionawr eleni mewn araith yng nghynhadledd Davos. Yno, galwodd am gynghrair newydd o bwerau ‘canolig’ y byd, gan ddweud mai dim ond drwy dynnu’n agosach at ei gilydd y gallai’r pwerau hyn frwydro yn erbyn y stormydd sy’n trawsnewid y drefn ryngwladol.
Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, ydi ai syniad haniaethol a symbolaidd er mwyn anfon neges wleidyddol ydi hwn, ynteu cynllun all wir agor pennod newydd i’r UE, un lle bydd Canada yn rhan rywsut o’r clwb Ewropeaidd? A beth ydi’r oblygiadau i wledydd ‘canolig’ eraill, gan gynnwys y DU?
Dwi’n tybio bod y datblygiad wedi creu cryn benbleth yn Llundain. Ers dwy flynedd, mae dwy lywodraeth Lafur Brydeinig wedi bod wrthi’n ceisio ffurfio perthynas agosach hefo Ewrop heb roi’r argraff eu bod nhw’n dad‑wneud Brexit. Mae’r broses honno wedi bod yn boenus i’w gwylio mewn gwirionedd. Cawn gamau bychain at bartneriaeth agosach bob hyn a hyn – ailymuno hefo rhaglen ieuenctid Erasmus a tharo cytundeb ar ddiogelwch ac amddiffyn, er enghraifft – ond mae yna fwlch anferth o hyd rhwng uchelgais Llafur a’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni.
Mae hynny’n arbennig o wir mewn materion masnach. Mae cymaint o botensial i gael gwared ar rwystrau masnach, cam fyddai’n hwb anferth i fusnesau Prydeinig, ond mae’r trafodaethau’n methu o hyd pan fo rhaid i Lundain ymrwymo i ddilyn rheolau Ewropeaidd. A dyma i ni Ganada rŵan yn dweud yn agored ei bod hi am gael mwy o fynediad i’r farchnad Ewropeaidd oherwydd y buddion economaidd enfawr, a hynny heb ofni’r oblygiadau gwleidyddol, gan gynnwys bygythiadau Donald Trump.
Pwy a ŵyr, efallai y bydd cam beiddgar Canada yn rhoi hyder newydd i lywodraeth Andy Burnham wrth geisio taro cytundebau newydd hefo Brwsel? Mae sïon yma, fodd bynnag, fod uwchgynhadledd rhwng yr Undeb a’r Deyrnas Unedig – un gafodd ei gohirio fis Gorffennaf yn sgil ymddiswyddiad Keir Starmer – unwaith eto yn y fantol. Y gobaith oedd ei chynnal fis Hydref, ond mae llywodraeth Burnham wedi cyflwyno gofynion newydd allai ohirio’r broses ymhellach, yn eu plith y syniad fod Brwsel yn ystyried Prydain fel gwlad ‘Ewropeaidd’ ar gyfer cynllun newydd i flaenoriaethu busnesau Ewropeaidd mewn contractau cyhoeddus.
Efallai’n wir y bydd bwrlwm ynghylch bwriadau Canada yn sbardun i Burnham a’i weinidogion gyflymu’r gwaith o agosáu at yr Undeb. Ond am y tro, Canada sy’n mentro ymlaen – a Phrydain yn dal i betruso.
