Thema dywyll Thema golau

Carwyn: Darlunio Dyfodol Cymru a Phrydain

*    *    *

Fyth ers i Ron Davies draddodi darlith (yn harddwch Gregynog) yn disgrifio datganoli fel ‘proses nid digwyddiad’, mae un cwestiwn amlwg wedi parhau heb ei ateb, sef proses yn arwain at beth? Sut fath o bensaernïaeth gyfansoddiadol yr oedd cefnogwyr datganoli yn credu y dylai nodweddu Cymru a Phrydain yn y pen draw? Ni chynigwyd unrhyw lun ar ateb yn y ddarlith. Digon o waith fod gan Davies ateb ar y pryd. Erbyn hyn, ac yntau wedi ymuno â phlaid sy’n cefnogi Cymru annibynnol fel nod cyfansoddiadol hir dymor, gellir tybio fod hynny wedi newid. Ond beth am y blaid a adawodd ar ei ôl? Gwyddom nad yw annibyniaeth ar ei hagenda hi. Ond beth yw’r weledigaeth gyfansoddiadol amgen?

Deillia pwysigrwydd araith Carwyn Jones o’r ffaith ei bod – wrth gasglu ynghyd nifer o’r gwahanol syniadau sydd wedi eu gwyntyllu ganddo’n ddiweddar – yn darparu’r darlun mwyaf systematig a gafwyd hyd yma o sut y carai arweinydd Cymreig y Blaid Lafur weld Cymru a Phrydain yn datblygu i’r dyfodol.

*    *    *

O ran Cymru, mae Carwyn Jones unwaith yn rhagor yn ailddatgan ei weledigaeth o awdurdodaeth gyfreithiol yn cael ei chreu er mwyn cwblhau’r drindod sefydliadol glasurol a ystyrir yn anhepgorol mewn trefn ddemocrataidd aeddfed; hynny yw deddfwrfa (senedd), gweithrediaeth (llywodraeth) a barnwriaeth (awdurdodaeth gyfreithiol).

Y mae hefyd am weld estyn grymoedd y lefel lywodraethol Gymreig. Ym maes cyfiawnder, geilw am ddatganoli’r cyfrifoldeb dros gyfraith teulu yn syth. Ar yr amod fod arian yn dod i’w canlyn, mae’n amlwg hefyd ei fod yn fwy na bodlon gweld y cyfrifoldeb am heddlua a chyfiawnder troseddol yn symud i Gaerdydd. Yn ogystal â’r rhain, mae’n estyn ei gefnogaeth i ddatganoli’r rheilffyrdd ac i roi mwy o rymoedd ym maes ynni i’r Cynulliad Cenedlaethol.

A Chomisiwn Silk wedi derbyn gwys i adrodd ar bwerau trethiannol ac ariannol y Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn, mae safbwynt y Prif Weinidog ar y materion hyn o’r pwys gwleidyddol mwyaf. Ac yn hyn o beth, mae’n deg dweud fod ei safbwynt yn llai radical o’r hanner. Nid yw’n syndod ei fod yn frwd o blaid diwygio fformiwla Barnett. Fyth ers i’w blaid golli’r grym i wneud unrhyw beth yn ei gylch, mae gwleidyddion Llafur wedi bod yn angerddol yn eu cefnogaeth i unioni’r cam a wneir â Chymru dan y drefn bresennol. Nid yw’n syndod, chwaith, ei fod yn cefnogi rhoi’r un pwerau benthyca arian i Gymru ag y mae’r senedd yn Llundain ar fin eu hestyn i’r Alban.

Ond ymddengys, fodd bynnag, fod Carwyn Jones am gael dewis a dethol pa rannau o’r pecyn ariannol a threthiannol y mae’r pleidiau unoliaethol – Llafur yn eu mysg – wedi ei chreu ar gyfer yr Alban. Mae’r pecyn hwnnw’n deillio o Adroddiad Comisiwn Calman a argymhellodd gynnig pwerau benthyg fel math o quid pro quo. Fe gâi Senedd yr Alban fenthyg arian ar yr amod ei bod yn dyfod yn fwy ‘atebol’ yn ariannol. Yn ymarferol golygai hyn nid yn unig ei bod yn meddu ar bwerau ym maes treth incwm (sef y sefyllfa sydd wedi bodoli ers 1997), ond ei bod yn cael ei gorfodi i’w defnyddio. Os daw Mesur yr Alban yn ddeddf, bydd yn rhaid i Senedd yr Alban gymryd penderfyniad bwriadus ynglyn â lefel y dreth incwm gyffredin yn yr Hen Ogledd.

Mae’n ymddangos fod Carwyn Jones yn gyndyn i ddilyn y rhesymeg yma. Yn sicr ddigon nid yw’n yngan y gair ‘atebolrwydd’. Er ei fod yn fwy na bodlon gweld datganoli mân drethi cymharol ddibwys, mae’n mynnu bod rhaid cynnal refferendwm (ie, eto fyth!) cyn y gellid datganoli unrhyw ddylanwad dros gyfraddau treth incwm i Gymru. Mewn byr eiriau, tra y gorfodir yr Alban i fod yn atebol, yn achos Cymru cred Carwyn Jones y dylai atebolrwydd fod yn ddewisol. Go brin y caiff safbwynt o’r fath ei chymryd o ddifrif yn y Trysorlys yn Llundain. Nid yw’n haeddu hynny chwaith.

*    *    *

Wrth droi at ei syniadau ynglyn â dyfodol y Deyrnas Gyfunol y cawn well gafael ar hyd a lled radicaliaeth gyfansoddiadol ein Prif Weinidog. Wrth alw am Gonfensiwn Cyfansoddiadol i benderfynu sut orau i drefnu cydberthynas y pedair gwlad sy’n ffurfio’r wladwriaeth, mae Carwyn Jones yn cynnig ei syniadau ei hun. Mae’r rhain yn cynnwys llunio cyfansoddiad ysgrifenedig a fyddai’n diffinio – a gwarantu – pwerau a statws y gwahanol lefelau llywodraethol. Byddai hynny ynddo’i hun yn golygu troi canrifoedd lawer o arfer seneddol Seisnig ar ei ben gan greu gwladwriaeth a fyddai’n rhannu llawer o nodweddion cyfundrefn ffederal. Cadarnheir mai dyna yw’r union fwriad pan ddadleua Jones o blaid troi Ty’r Arglwyddi yn siambr diriogaethol gyda chynrychiolaeth gyfartal i’r pedair gwlad ar batrwm Senedd yr Unol Daleithiau. Afraid dweud y byddai hyn yn gyfystyr â chwyldro cyfansoddiadol. Ac yntau’n fargyfreithiwr, gellir bod yn gwbl sicr fod y Prif Weinidog yn gwybod hynny’n burion. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, awgryma ymhellach y dylid canfod ffordd o adlewyrchu’r gwahaniaethau yn safbwyntiau a buddiannau’r pedair gwlad yn ymwneud y Deyrnas â’r Undeb Ewropeaidd. Rwan mae’n anodd gwybod beth yn union sydd ganddo mewn golwg yma – ni cheir manylion yn yr araith. Ond gellir dweud hyn yn sicr: petai Carwyn Jones yn cael ei ffordd fe fyddai Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn lle gwahanol iawn, iawn i’r hyn yr ydym yn gyfarwydd ag ef.

Gwirion fyddai honni bod y weledigaeth gyfansoddiadol a gynigodd ein Prif Weinidog yn gyflawn. Fel cymaint o’i gyd-bleidwyr, ymddengys fod Carwyn Jones yn gyndyn o siarad am Loegr a’r dimensiwn Seisnig. Ond beth bynnag yw’r problemau, mae’n anodd meddwl am unrhyw wleidydd Llafur o bwys, erioed o’r blaen, yn rhoi ei enw wrth gynllun o ddiwygiadau mor bellgyrhaeddol i’r hyn y gellir ei alw’n gyfansoddiad tiriogaethol y wladwriaeth yr ydym yn trigo ynddi. Yr hyn sy’n parhau’n aneglur, fodd bynnag, yw pwy sy’n gwrando arno ac yn cytuno ag ef? Beth, er enghraifft, yw barn Peter Hain a gweddill yr Aelodau Seneddol Llafur a etholir yng Nghymru? Beth yw barn Ed Miliband? Ac a ydyw Miliband hyd yn oed yn ymwybodol o syniadau Carwyn? Neu ydi o’n ddigon fod Carwyn Jones ei hun yn credu’r pethau hyn? Wedi’r cwbl, mae grym Peter Hain bellach yn edwino a does wybod a fydd Ed Miliband fyth yn Brif Weinidog. Mewn amgylchiadau o’r fath mae’r hyn a oedd gan Carwyn Jones i’w ddweud am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru o leiaf yn wirioneddol arwyddocaol. Hen dro bod y geiriau wedi eu traddodi mewn lleoliad mor uffernol o ddienaid.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y byd - Rhoi TAW ar Dy Dduw

Ymlaen >

Gwlad y Basg - Mwy Na Man Gwyn Man Draw