Thema dywyll Thema golau

Catalwnia, bum mlynedd wedi’r refferendwm

Protest dros annibyniaeth i Gatalwnia, Barcelona Protest dros annibyniaeth i Gatalwnia, Barcelona
Mae Catalwnia’n ysbrydoliaeth i gefnogwyr annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban, a’i baner i’w gweld yn ddi-ffael mewn gorymdeithiau. Eleni, treuliais haf hir yng ngwres Girona, cadarnle annibyniaeth lle mae’r Estelada’n chwifio o bob yn ail balconi. Profais angerdd ac argyhoeddiad y rhai sydd o blaid – ac yn erbyn – Catalwnia rydd. Efallai nad yw holl ddarllenwyr BARN yn ymwybodol fod llywodraeth Catalwnia, y Govern, heddiw’n dadfeilio. Cymaint yw’r dyhead am annibyniaeth ymysg gwleidyddion fel bod dwy blaid o ddwy ochr y sbectrwm gwleidyddol yn cyd-lywodraethu ers 2021, Esquerra Republicana de Catalunya ar y chwith a Junts per Catalunya ar y dde. Daeth y tensiynau rhyngddynt i’w penllanw ym mis Hydref pan bleidleisiodd aelodau Junts dros adael y llywodraeth wedi i’r Arlywydd Pere Aragonès (Esquerra) ddiswyddo ei is-Arlywydd Jordi Puigneró (Junts). Mae Esquerra bellach yn llywodraethu heb fwyafrif, a’u mandad yn fregus.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Efa Gruffydd Jones

Comisiwn y Comisiynydd?

Ymlaen >
Gorymdaith YesCymru, Caerdydd, Hydref 2022

Un penwythnos yng Nghymru 2022