Y Dyn Fu yn y Lleuad
I’r genhedlaeth a gododd yn afresymol o gynnar ar 20 Gorffennaf 1969 i weld y darllediad byw cyntaf o’r lleuad, daeth rhywbeth go arbennig i ben ar ddiwedd yr haf a aeth heibio. Roedd y dyn cyntaf i gamu ar y lleuad, Neil Armstrong, wedi cymryd ei gam olaf ar y ddaear. Drwy hynny dyna roi atalnod llawn terfynol ar y Ras i’r Gofod, ras a fu’n rhan mor fawr o’r ugeinfed ganrif.
2 Hydref 2012
Y Pla Anhygoel
Cafodd yr awdur driniaeth i’w lygaid yn ddiweddar ond merwino’i glustiau y mae rhai pethau y mae’n eu clywed ar y cyfryngau Cymraeg y dyddiau hyn. Yn sgil llwyddiant a phoblogrwydd y dreth ar fagiau plastig, da fyddai gweld ymgais gyffelyb i gosbi gorddefnydd o ‘anhygoel’ gan ddarlledwyr a chyfweledigion ar raglenni’r BBC ac S4C. Gellid tybio mai hwn yw’r unig ansoddair Cymraeg sy’n mynegi cymeradwyaeth, pleser neu foddhad.
2 Hydref 2012
ganGareth Miles
Camu i’r Goleuni o Gysgod Breivik
O’i gartref yn Norwy anfonodd yr awdur y darlun dadlennol hwn o genedl yn cofleidio ei gwerthoedd gwâr yn dilyn carchariad y terfysgwr hiliol Anders Behring Breivik. Mae’n ddydd Sul digon cyffredin ym Medi ar benrhyn Nesodden; llain o dir coediog sy’n wynebu dinas Oslo dros ddyfroedd cysgodol y fjord. Yn ystod yr wythnos mae fflyd o longau bach yn cludo cymudwyr i galon y brifddinas. Ond ar benwythnosau mae mwy o gychod hwylio a kayaks ar y dwr na llongau gwaith wrth i’r cymudwyr ymlacio.
2 Hydref 2012
Cwrs y Byd – Awr Dywylla’r Heddlu
Mi ydw i wedi cael cryn dipyn i’w wneud â phlismyn ar hyd y blynyddoedd. Fy ngwaith fel newyddiadurwr, prysuraf i esbonio, fu’n gyfrifol am hynny nid unrhyw duedd anghyffredin ynof i dorri’r gyfraith. Ar wahân, hynny ydi, i oryrru. Ar un achlysur cefais fy nhemtio i roi fy nhroed i lawr yn drymach nag arfer yng nghyffiniau Trawsfynydd, ar yr unig damaid unionsyth o ffordd a oedd yn bod ar y pryd rhwng de a gogledd. Nid digon y tro hwnnw oedd taro siec yn y post. Rhaid oedd ymddangos gerbron y llys ym Mlaenau Ffestiniog. Cynghorwyd fi nad peth doeth fyddai i un a ddaliwyd yn gwneud 103 wynebu llid a chynddaredd ynadon Stiniog ar ei ben ei hun. Yn y gobaith y gallwn osgoi gwaharddiad hir bu’n rhaid i minnau logi’r Barnwr, bellach, Niclas Parry i eiriol ar fy rhan. Diolch i’w ddoniau llachar gosodwyd arnaf ddirwy drom yn gyfnewid am waharddiad o ddeg diwrnod yn unig. Bargen, mewn gwirionedd. A phrawf bod arian yn gallu, nid osgoi yn hollol, ond lliniaru cosb. Doedd hi’n ddim syndod o gwbl i mi fod potsiar mor ddeheuig ag ef wedi cael ei ddyrchafu’n gipar y gyfraith.
2 Hydref 2012
Ffarwel Crycymalix, Henffych Gwyddoniadix
Mae Ann Gruffydd Rhys yn rhoi croeso twymgalon i gyfieithiadau newydd o glasuron straeon stribed Ffrengig ar gyfer darllenwyr o bob oed. Cafodd ein meibion eu magu ar Asterix. Roedd enwau Obelix ac Odlgymix, Crycymalix ac Einharweinix mor gyfarwydd iddyn nhw â Siôn Blewyn Coch a Barti Ddu, Mr Picton a Dai Tecsas. Roedd hiwmor y straeon stribed Ffrengig yma’n ogleisiol o ddoniol, yn fyrlymus o wreiddiol. Dim ond i rywun gladdu’i ben rhwng dau glawr, fyddai hi fawr o dro cyn i chwerthiniad direidus ddianc o blith y dalennau. Does ryfedd fod ein cyfrolau wedi treulio – rhoesant flynyddoedd o fwynhad i ni fel teulu.Digri, lliwgar, a Chymreig. Gyda’n cefndir cyffredin Celtaidd, yn cael ein goresgyn gan ‘y Rhufeiniaid gwallgo ’ma!’, roedd rhywbeth naturiol mewn trosi helyntion ein lled-gefndryd Galaidd, gyda’u derwydd a’u bardd yn gymeriadau stoc, i’n hiaith a’n diwylliant ni. Daeth saith cyfrol hardd o Wasg y Dref Wen i ddwylo’r plant, ac yna – ‘myn Twtatis!’– sychodd y ffrwd. Yn ofer y chwiliais am Asterix a Cleopatra, yr unig un nad oedd gennym, yn y siopau llyfrau.
2 Hydref 2012