Y Pridd A’r Concrid – Hiliaeth cefn gwlad
Ar bridd y fam ynys y bydd y Dyn Mynd a Dwad yn bwyta ei wydd y Nadolig hwn, ymhell bell o Arizona ei deulu yng nghyfraith, ac yn ddigon pell hefyd o goncrid Caerdydd. Ond cyn mynd i ysbryd yr wyl – a’r wydd – mae o angen cicio penolau a dweud y drefn wrth rai o’n ffermwyr ifainc. Treulio’r Nadolig yn Niwbwrch fyddwn ni eleni yn deulu bach cytûn. Mae Iwan ein mab yn edrych ymlaen yn eiddgar. Newidiodd ei ddewis o anrhegion yn ddyddiol. Pob un yn electronig. A phob un ymhell y tu hwnt i gyrraedd ariannol ei fam a finnau.
8 Rhagfyr 2012
Cymru a Slofenia – Beth yw’r Gwahaniaeth?
Sut mai lled-fyw y mae Cymru heddiw tra mae gwlad fechan debyg o ran maint fel Slofenia yn ffynnu?Ryw ddwy flynedd yn ôl gwahoddwyd Wiliam O. Roberts a phum llenor Cymraeg arall i Wyl Lenyddol Vilencia yn Slofenia, ac yn sgil eu hymweliad gofynnodd un o olygyddion Taliesin i’r nofelydd sgrifennu llith am y wlad a’r hyn a welodd ac a glywodd tra y buont yno. Cytunodd â’r cais ond ni chyhoeddwyd mo’i ysgrif hyd yn hyn ac nid yw hynny’n debyg o ddigwydd, sy’n biti, gan ei bod, yn fy marn i, yn debycach o blesio darllenwyr y cylchgrawn nag yw erthyglau golygyddol cosmopolitaidd, myfïol ac athronyddu syrffedus ar ‘themâu’ fel ‘Yr Enaid’, ‘Y Daith’ a’r ‘Bogail’.
8 Rhagfyr 2012
ganGareth Miles
Ar Y Groesffordd – Dyfodol Datganoli
Bu misoedd yr hydref yn rhai pwysig o ran gwleidyddiaeth Cymru. Prin y bu wythnos lle na welwyd rhyw ddatblygiad neu’i gilydd, boed hynny’n draddodi araith arwyddocaol, rhyddhau adroddiad hirddisgwyledig neu gyhoeddi dyfarniad llys pwysfawr. O ganlyniad i hyn oll daw’n gynyddol amlwg beth yw’r opsiynau sydd o’n blaenau – y rhai dichonadwy, o leiaf – o ran dyfodol ein cyfundrefn lywodraethol. Mae Cymru, fe ymddengys, yn sefyll ar groesffordd. O ddewis un llwybr fe ellir disgwyl gweld sefydlu, erbyn diwedd y degawd fan bellaf, fframwaith o sefydliadau gwleidyddol a all oroesi dros gyfnod estynedig i’r dyfodol. Fframwaith o sefydliadau a fydd yn ddigon gwydn i allu cynnal ein breichiau pa bynnag ddyfodol cenedlaethol a ddewiswn ar ein cyfer ein hunain. Ond, o ddewis y llwybr arall, fe fydd Cymru’n parhau i gropian yn llesg, yn herciog ac wysg ei thin i gyfeiriad rhywbeth sy’n haeddu’r enw ‘setliad’ wrth ddisgrifio ei chyflwr cyfansoddiadol.
8 Rhagfyr 2012
Materion y Mis – Pwyll, Weinidog Addysg, Pwyll
Beth bynnag fo barn pobl am Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, does neb all amau ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i’w ben os creda y byddai tarfu ar y nyth hwnnw yn llesol i system addysg Cymru. Ac felly y bu hi’r wythnos ddiwethaf. Cyhoeddodd adolygiad (arall) i edrych ar rôl awdurdodau addysg leol a’u gwaith yn cefnogi a gwella safonau addysgol. Ymhlith yr opsiynau y bydd yr adolygiad yn eu hystyried bydd tynnu’r cyfrifoldeb am addysg oddi ar awdurdodau lleol a chyfeirio’r gwaith o’r canol.
8 Rhagfyr 2012
ganAnna Brychan
Annwn ac yn ôl – Gwaith Iwan Ap Huw Morgan
Lowri Haf Cooke<br /> <p><em>Mae artist perfformiadol o Gaerdydd yn tynnu ar brofiadau anodd ei orffennol ac ar chwedloniaeth Geltaidd yn ei waith, ac yn awr mae ar fin mynd i Beriw i astudio siamaniaeth.</em></p><p>Mae dyn yn gorwedd ar wastad ei gefn mewn ystafell dywyll. Ar wasgar o’i gwmpas y mae canhwyllbren potel wisgi, rholyn tin-ffoil arian a chwistrellau di-ri. Mae ei freichiau ar led, balaclafa am ei ben a rhaff wedi’i chlymu’n dynn am ei wddw. Ymhen dim, y mae ar ei draed, yn tynnu gwaed o’i glun chwith trwy chwistrell cyn chwistrellu’r gwaed dros ei wyneb ei hun. </p><p><img src="images/stories/2012_12/tudalen.jpg" border="0" width="336" height="241" /> </p>
8 Rhagfyr 2012