Llun y Mis – Taith Feicio Hedd Wyn
Mae ein Llun y Mis yn dangos tri a seiclodd dros 9 diwrnod o Fangor i Langemark yn Fflandrys, ddau ohonynt yr holl ffordd – cyfanswm o 630 milltir – ganol Medi, i godi arian at y gofeb y bwriedir ei chodi erbyn Awst 2014 i goffáu’r milwyr o Gymru a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr, sef Cofeb y Cymry yn Fflandrys.
30 Medi 2013
ganSian Rees
Y Sgets a Gadd ei Gwrthod
Caiff Cynan ei gofio yn bennaf fel bardd ac fel un o’r Archdderwyddon mwyaf lliwgar erioed. Ond yma mae awdur cofiant arfaethedig iddo yn trafod pennod arall, lai cyfarwydd yn ei yrfa – Cynan y sensor. Mewn erthygl Barn yn rhifyn Gorffennaf/Awst o’r cylchgrawn hwn, erthygl sydd mewn gwirionedd yn enghreifftio’i holl raison d’être ac a sgrifennwyd, fel y mae’n digwydd, gan ei olygydd cyntaf yn 1962, Emlyn Evans, dadleuir mai ‘colled anaele i’r bywyd cymdeithasol ym Mhrydain oedd dileu sensoriaeth yn y byd celfyddydol’. Carreg filltir arwyddocaol ar y pryd oedd yr achos llys yn 1960 pan enillodd Llyfrau Penguin eu hachos a chyhoeddi Lady Chatterley’s Lover D.H. Lawrence yn gyfreithlon am y tro cyntaf. Ac yna ym Medi 1968 gyda Deddf Theatrau’r flwyddyn honno, daeth sensoriaeth llwyfan hefyd i ben, cam a olygodd fod un o Gymry amlycaf ei ddydd, Syr Cynan Evans-Jones, yn sydyn reit yn ddi-waith. Oherwydd rhwng 1931 ac 1968 ef oedd unig ddeiliad swydd unigryw sef Archwiliwr neu Ddarllenydd Cymraeg i’r Arglwydd Siambrlen, un o bennaf gweision y frenhiniaeth yr oedd yn rhaid wrth drwydded ganddo os am berfformio unrhyw ddrama ar lwyfan cyhoeddus ym Mhrydain.
30 Medi 2013
Ysu am Etholiad
Efo blwyddyn a hanner i fynd tan yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf, mae’r pleidiau – a’r sylwebyddion academaidd a newyddiadurol – yn ymbaratoi ar gyfer brwydr na fu ei thebyg yn hanes gwleidyddol yr ynysoedd hyn o fewn cof y mwyafrif llethol ohonom. Mae’r gêm yn mynd i newid – hyd yn oed os nad yw’n gwbl eglur eto beth fydd y sgôr derfynol.
30 Medi 2013
Cwrs y Byd – Camu o’r Tywyllwch
Sbïwch arni hi yn ei holl ogoniant yn y llun. Ers 2008 mae Kate Goldsworthy, y wraig efo’r lifrau a’r enw euraid, wedi bod yn esgob Anglicanaidd yn Awstralia. Wnaeth hynny ddim peri i’r cangarw roi’r gorau i sboncian ar hyd eangderau’r wlad. Ddaeth yr un crac i dalcen Ty Opera Sydney pan grybwyllwyd y newydd am ei phenodiad. A dal i ddisychedu ar Castlemaine XXXX mae cefndryd Crocodile Dundee gan ddyheu fel erioed am un walts arall efo Matilda yn eu breichiau.Ceisio dweud ydw i na ddaru codi merch i fod yn esgob ddim tanseilio’r mymryn lleiaf ar yr hen ffordd Awstralaidd o fyw. Mae’r wlad lle trawsgludwyd llongeidiau o hwrs a lladron, ynghyd â’r diniwed, eto yn ddigon goleuedig i ddyrchafu merch i uchel swydd eglwysig. Lloegr, ystyfnig a gwrthnysig, yw’r unig un bellach o blith eglwysi gwledydd Prydain sy’n gwahardd merched ordeiniedig rhag bod yn esgobion.
30 Medi 2013
Ar Yr Un Donfedd: Holi Betsan Powys
Ers mis Gorffennaf eleni, mae gan Radio Cymru Olygydd newydd. Bu’n sôn wrth Barn am ei gweledigaeth, am y syniad o ail donfedd ac am ffrwyth ymchwil sydd wedi’i chalonogi.Magwyd Betsan Powys ar aelwyd lle nad oedd dim ond un orsaf radio i’w chlywed, a Radio Cymru oedd honno. Tyfodd i fyny yn swn Helo Bobol a Stondin Sulwyn. Radio Cymru oedd prif gyswllt y teulu, yng Nghaerdydd ac yna yn Nhregarth yn y gogledd, gyda’r hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill Cymru, ac mae Betsan yn cofio cael ysgytwad wrth fynd i’r coleg yn Aberystwyth a dod ar draws Cymraes Gymraeg yn y neuadd breswyl a oedd yn gwrando o ddydd i ddydd ar Radio One. ‘Mae’n siwr fod y ferch honno, oedd yn dod o Lanelli, wedi cael yr un sioc bo’ fi’n gwrando ar Radio Cymru!’
30 Medi 2013
ganMenna Baines
Marwolaeth Seamus Heaney (1939-2013)
FFARWEL CENEDL I’W BARDD CENEDLAETHOL Ai dim ond yn Iwerddon y byddai prif raglen newyddion y genedl yn cael ei neilltuo bron yn llwyr i goffáu bardd? Ond nid bardd na dyn cyffredin oedd y gwr o Swydd Derry.
30 Medi 2013