Saunders: “Mae rhywbeth amdanat ti…”
Dim ots beth yw’r gwirionedd, pedlerir o hyd y myth mai Ffasgydd oedd Saunders Lewis. Cyhoeddodd yr awdur lyfr yr haf hwn yn gwadu’r cyhuddiad. Ond "peidied â gadael i’r ffeithiau ddifetha’r stori" yw agwedd pobol a ddylai wybod yn well – yn eu plith haneswyr Cymreig o fri. A hithau eleni’n gant ac ugain o flynyddoedd ers ei eni, mae Saunders Lewis yn parhau i gorddi a chythruddo. Cymerwch ein cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni fe achubodd ar y cyfle, yn sgil cyhoeddi fy nghyfrol newydd yn trafod y cyhuddiad o Ffasgaeth yn erbyn Plaid Cymru, i sôn wrth ddarllenwyr y Western Mail am drafodaeth dros fwrdd brecwast rhwng tad Rhodri, yr Athro T.J. Morgan, a Saunders Lewis. Yn nhyb Lewis, yr oedd yr ochr gywir wedi ennill y Rhyfel Cartref yn Sbaen. Yn ddiau, bwriad Morgan (y mab) wrth adrodd yr hanes oedd cyffelybu agwedd adweithiol (ffasgaidd?) Lewis gydag agweddau chwith-ryddfrydol iach ei dad.
30 Awst 2013
Saunders, Kate ac Aled
Roedd bwrlwm o weithgaredd theatrig yn yr Eisteddfod eleni fel pob blwyddyn, a chafodd ein hadolygydd ei blesio ar y cyfan.Os ewch ar wefan Youtube a theipio Stomp Plant Eisteddfod 2013 i’r chwiliwr fe ddowch o hyd i fideo ohonof i yn adrodd cerdd ac yn jyglo ar yr un pryd. (Peidiwch gofyn pam, roedd o’n gwneud synnwyr ar y pryd.) A dyna’n union sut y treuliais fy wythnos yn yr Eisteddfod, yn jyglo gan geisio gwneud fy ngorau (a methu gan amlaf) i’w dal hi ym mhob man. Dyma rai o uchafbwyntiau fy wythnos theatrig yn yr Eisteddfod.
30 Awst 2013
“ Seren y Dwyrain” – papur bro Cairo a’r Dwyrain Canol
Saith deg o flynyddoedd yn ôl i’r mis hwn rhoddwyd cychwyn ym mhrifddinas yr Aifft ar un o’r mentrau cyhoeddi mwyaf hynod yn holl hanes y wasg Gymraeg. Rydym i gyd yn gyfarwydd ag anwybodaeth ein cymdogion agosaf o Gymru a’r Gymraeg. Nid fi yw’r unig un, mae’n siwr, sy’n teimlo fel cenhadwr bob tro y byddaf yn croesi Clawdd Offa. Ond pitw a dibwys yw fy ymdrechion achlysurol i o’u cymharu â menter ryfeddol a barhaodd am bum mis ar hugain yng nghanol anhrefn yr Ail Ryfel Byd. Menter a aeth â’r Gymraeg i barthau llawer iawn pellach na Lloegr.
30 Awst 2013
Isetholiad Ynys Môn
Daeth ymgyrch Plaid Cymru yn ei chrynswth i ymdebygu fwyfwy i garnifal, cymaint oedd yr ymdeimlad o hwyl ac asbri ymhlith cefnogwyr Rhun ap Iorwerth.
30 Awst 2013
Dwi’n dal i fod – mewn – band roc a rôl
Roedd presenoldeb bandiau o’r gorffennol yn yr Eisteddfod eleni, ochr yn ochr â bandiau cyfoes, yn nodwedd ddifyr ar yr arlwy roc a phop yn Ninbych – ond roedd yn codi ambell gwestiwn pwysig hefyd.Mae’r haf yn gyfle perffaith i gerddorion a threfnwyr y sîn roc yma yng Nghymru gael arddangos eu talentau ar bob math o lwyfannau gwahanol, rhai awyr-agored yn aml – o gefn lori ar sgwâr Rhuthun i erddi Plas Newydd, o draeth Llangrannog i awyrgylch ganoloesol Castell Caernarfon. Ond mae pob dim i’w weld yn dod at ei gilydd yn daclus ar ddechrau mis Awst. I lawer, yr Eisteddfod Genedlaethol yw uchafbwynt y flwyddyn o ran cerddoriaeth roc, gyda detholiad mor eang o fandiau ac artistiaid yn chwarae yn ystod yr wythnos. Yma daw pobl o bob oedran a chwaeth gerddorol i wylio eu hoff fandiau’n chwarae o flaen torfeydd o gannoedd o bobl, ac efallai i ddarganfod ambell fand newydd hefyd.
30 Awst 2013