Mandela – Yr Hen Wr a Ailadeiladodd Genedl
Ar 5 Rhagfyr, wrth i rifyn Rhagfyr/Ionawr fynd i’r wasg, daeth y newydd am farw Nelson Mandela ac felly cyhoeddir yr erthygl hon ar y wefan yn unig. Hendrik Verwoerd. Gwleidydd. Bu farw yn Ne Affrica, 1966. Ond nid gwers hanes mo hon; gyda marwolaeth un arall o arweinyddion De Affrica, hanes yr oesoedd sydd dan sylw. Does dim angen esbonio pwy oedd Nelson Mandela, ond dyfalwn na fyddai cymaint yn gallu ateb yn syth bin pwy oedd Hendrik Verwoerd. Ond bu’n Brif Weinidog, ef a sefydlodd Weriniaeth De Affrica, a dyma bensaer cyfundrefn wleidyddol newydd ei wlad. Gyda’r byd yn galaru am Mandela, a gwleidyddion – gyda gwahanol raddfeydd o ddidwylledd – yn rhugl eu teyrngedau, mae’n werth oedi am ennyd gydag un a fu’n arwain y wlad dan yr hen drefn.Y drefn honno oedd apartheid – ‘datblygiad ar wahân’. (Nid peth newydd mo ymadroddion neis am bethau hyll, welwch chi.) Verwoerd a’i cynlluniodd, a thra oedd ef mewn grym y gwaharddwyd yr ANC a mudiadau tebyg, ac y cynhaliwyd Prawf Rivonia (1963–4), lle dedfrydwyd Nelson Mandela i garchar.
10 Rhagfyr 2013
ganMeg Elis
Y Pridd a’r Concrid
Canmol carcharorion Cothi – ond ai carchar bellach yw bro mebyd?Mae’r Dyn Mynd a Dwad wedi bod wrth ei fodd yn pendilio rhwng Caerdydd a Niwbwrch ers blynyddoedd lawer. Mater gwahanol iawn, fodd bynnag, yw ystyried gadael concrid y brifddinas yn llwyr a threulio gweddill ei oes yn troedio’r llwybrau priddlyd gynt. Mae hi’n Nadolig unwaith yn rhagor. Ers tro byd addurnwyd ein strydoedd â goleuadau lliwgar ac mae geriach Nadoligaidd yn y siopau ers diwedd yr haf, bron. Ond nid yw’r pethau hyn yn llenwi fy nghalon â llawenydd diderfyn. I’r gwrthwyneb, i mi dyma dymor dechrau gofidiau a phlyciau o iselder. Diolch i’r nefoedd bod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc eleni, yn wahanol i’r llynedd, wedi fy llonni ynghanol diflastod paratoadau’r Nadolig. Gwelsoch y llun ardderchog a welir yma. Dychwelaf innau at yr hogia yn y man.
10 Rhagfyr 2013
Pan ddaw’n adeg lledu adenydd
Ers dros flwyddyn bellach, rydw i a’m cymar wedi bod yn ymdrechu – yn aflwyddiannus – i gael lle i’n mab Joel am noson neu ddwy yng Ngerddi Glasfryn, uned breswyl Ysgol Plas Brondyffryn lle mae o’n ddisgybl. Nid am ein bod eisiau seibiant oddi wrtho, ond am ein bod yn credu y byddai’n gyfle iddo fod yn fwy annibynnol, a chael cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar-ôl-ysgol efo’i gyfoedion. Byddai hefyd yn hoe iddo o’r daith ddwyawr rhwng Glyn Ceiriog a Dinbych bob dydd. Gan fod gan Gyngor Wrecsam eu Canolfan Seibiant i Blant eu hunain, roedd yn rhaid i ni ymweld â hon yn gyntaf cyn penderfynu a fyddai’n addas i Joel neu beidio. Doedd hi ddim, am sawl rheswm.
10 Rhagfyr 2013
O Ewrop- Siôn Corn Wyn a Phedr Ddu
Ers dau gan mlynedd mae Pedr Ddu wedi bod yn helpu Siôn Corn yn yr Iseldiroedd a Fflandrys i ddosbarthu anrhegion Nadolig.
10 Rhagfyr 2013
Y Mab Afradlon – dychweliad Roy Keane
Yn ystod Cwpan y Byd 2002 a gynhaliwyd yn Japan a Chorea cafodd Keano, capten a chwaraewr gorau Gweriniaeth Iwerddon, ei anfon adre ar ôl iddo golli ei limpyn yn y modd mwyaf arswydus efo’i reolwr ac efo uwch-swyddogion Cymdeithas Bêl-droed ei wlad.Anaml iawn mae penodiad rheolwr cynorthwyol tîm pêl-droed yn haeddu sylw, heb sôn am hawlio’r penawdau newyddion am ddyddiau. Ond dyna ddigwyddodd gyda phenodiad Roy Keane fel rheolwr cynorthwyol Iwerddon.
10 Rhagfyr 2013
Poenau Tyfu
O blith yr holl anrhegion Nadolig dwi wedi’u derbyn erioed, dim ond un sydd wedi gwneud imi grio dagrau o lawenydd, a nofel The Growing Pains of Adrian Mole oedd honno. Ro’n i wedi mwynhau The Secret Diary of Adrian Mole, Aged 13 ¾ i’r fath raddau nes ’mod i’n methu byw yn fy nghroen tan imi gael fy macha ar y gyfrol nesaf. Dyna ydi grym llyfr da, yntê. ‘We read to know that we are not alone,’ chwedl C.S. Lewis. Roedd sawl apêl i’r llyfrau Mole o’m rhan i – yr hiwmor, y gonestrwydd, ac obsesiwn lwyr y dyddiadurwr gyda gwleidyddiaeth yr adain chwith. Ro’n i’n blentyn od, un a dreuliodd lawer o oriau anniddig yn hyfforddi fy stumog i fedru treulio mes, gwair a thatws amrwd, rhag ofn imi ganfod fy hun mewn rhyfel niwcliar heb fwyd call.
10 Rhagfyr 2013
ganBeca Brown
Y Stabl Wag
Ydi Dyn y Llety wedi cael bai ar gam? Oes unrhyw sail ysgrythurol o fath yn y byd i Ddrama’r Geni, un o’n hoff ddefodau Nadoligaidd? Bu Enoch Powell, Saunders Lewis, Y Bardd Cwsg, yr Apostol Paul a chwrw’r Rising Sun yn cynorthwyo’r awdur efo’i ymchwiliadau. Chai byth wybod beth oedd offeiriad Eglwys Gatholig Sant Joseff yn ei feddwl ohonom wrth inni faglu’n chwil ulw allan o’r Rising Sun yn Epsom, Surrey ac i mewn i’w gysegr ar gyfer offeren Noswyl Nadolig 1993. Ni fûm erioed yn Babydd, ond fel miliynau o Brydeinwyr roeddwn i’n ysu am ‘Nadolig go iawn’, am ‘wir ystyr y Nadolig’, a llond pen dryslyd o bethau cyffelyb. Ni wnâi dim y tro ond offeren Rufeinig draddodiadol – gydag allor, arogldarth, clychau a chanhwyllau. Gorau oll pe byddai’n offeren Dridentaidd Ladin. Ond ers Ail Gyngor y Fatican rhaid oedd bodloni ar oedfa yn yr iaith fain. Mae’n siwr bod eglwysi Cymru’n llawn pobl eithaf tebyg i mi bob Nadolig, gan gynnwys llawer sy’n dymuno cael eu crefydd mewn hen iaith sy’n eu cysylltu â gorffennol diflanedig.
10 Rhagfyr 2013