Materion y Mis – Pencadlys S4C – oes angen symud?
Mae’n syndod cymaint o drafod sydd wedi bod am ail-leoli pencadlys S4C. Mwy o drafod yn wir nag am gynnyrch y sianel sy’n destun llawer mwy dyrys. Pan sefydlwyd S4C yn 1982, o dy yng Nghlos Soffia, Caerdydd, yr oedd y sianel yn cael ei gweinyddu. Symudwyd yn ddiweddarach i uned ar stad ddiwydiannol yn Llanisien ac mae gen i gof da cael cryn drafferth dod o hyd i’r lle ar ôl taith o’r Gogledd pell. Doedd y sat nav ddim wedi ei ddyfeisio bryd hynny nac ychwaith Skype, e-bost na’r ffôn symudol clyfar. Pe bydden nhw ar gael fyddai dim angen teithio i Gaerdydd o gwbl. Ond ar y pryd byddai cael pencadlys dipyn nes adra, yn Aberystwyth er enghraifft, wedi bod yn gaffaeliad mawr. Roedd hi’r un mor anghyfleus i gomisiynwyr y sianel hwythau ac fe gawson nhw geir cwmni cwl, Golfs GTI ac Audis, er mwyn gwibio ar hyd ac ar led Cymru i fugeilio eu praidd o gyflenwyr.Bu gan y sianel bresenoldeb yng Nghaernarfon ers pan dwi’n cofio ac mae eu swyddfa yn Noc Victoria yn gartref i ddau o’u prif gomisiynwyr. Prin iawn ydi’r achlysuron pan fydd yn rhaid i gynhyrchydd deithio i’r pencadlys bellach a phan fues i yno i chwilio yn eu llyfrgell y llynedd roedd y lle fel y bedd gyda llawer llai o staff nag a fu. Yn wir fasa waeth i’r pencadlys fod yn y gofod seibr erbyn hyn.
29 Mawrth 2014
Miwsig y merched colledig
Tymor y Merched Colledig Opera Cenedlaethol Cymru Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, Gwanwyn 2014 Mae tymor o operâu ar un thema yn syniad da yn ôl GERAINT LEWIS.Mae David Pountney, cyfarwyddwr artistig Opera Cenedlaethol Cymru, wedi trawsnewid y profiad o fynd i’r opera yng Nghymru. Trwy dynnu’r tri chynhyrchiad a geir bob tymor gan y cwmni dan ymbarél un thema benodol mae’n cynnig ffocws arbennig sy’n taflu pob math o gysgodion diddorol ac yn creu cysylltiadau difyr rhwng gweithiau o wahanol ganrifoedd neu hyd yn oed rhwng gweithiau un cyfansoddwr. Cawsom yr ‘Eneidiau Rhydd’, ‘Breuddwyd Wagner’, ‘Y Tuduriaid’ ac yn awr y ‘Merched Colledig’. Daw ‘Ffydd’ yn yr haf. Dyma syniad da sy’n ymestyn ein dealltwriaeth o’r gelfyddyd – ac y mae Pountney yn credu’n angerddol fod opera yn fwy na noson o adloniant yn unig. Er bod gwireddu’r weledigaeth wedi arwain yn anorfod at ambell elfen o gyfaddawd, rhaid cymeradwyo’r fenter fel un ddewr a dyfeisgar.Cymeriad ysgytwol Lulu ym mhortread Alban Berg oedd uchafbwynt tymor yr ‘Eneidiau Rhydd’ a dyma hi nawr yn hofran eto yng nghefndir y ‘Merched Colledig’: La Traviata (Verdi), Manon Lescaut (Puccini) ac ymdriniaeth arall o stori Manon gan Hans Werner Henze yn Boulevard Solitude. Mae operâu tymor y Merched Colledig ar daith ar hyn o bryd gan gynnwys perfformiadau yn Venue Cymru, Llandudno, ddechrau Ebrill. Am fanylion ewch i
29 Mawrth 2014
Cynllunio Niweidiol – Llundain a Chaerdydd sydd ar fai
Mae’r awdur, sy’n gynghorydd sir, yn dadlau bod Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu adrannau a phwyllgorau cynllunio Gwynedd a Môn am ddilyn polisïau a orfodwyd arnyn nhw gan lywodraethau San Steffan a Chymru. Digon diddiolch ydi gwaith cynghorydd sir yn amlach na pheidio. Fe glywch rai yn cwyno mai swyddogion cyflogedig sydd yn rhedeg ein cynghorau yn hytrach na’r aelodau etholedig. Ond nid dyna wraidd y broblem mewn gwirionedd. Deddfwriaeth, canllawiau, strategaethau a rheoliadau allanol sy’n bennaf gyfrifol am droi ein cynghorau sir o fod yn gyrff llywodraethu lleol i fod yn gyrff gweinyddu lleol. Saethu’r negesydd mae cynghorwyr wrth feio swyddogion y cyngor am danseilio eu hawdurdod. Llywodraethau Llundain (gyda chymorth o Gaerdydd ers 1999) sydd ar fai am danseilio democratiaeth leol yng Nghymru.Prin fod unrhyw ran o waith ein cynghorau lle mae hyn yn fwy gwir na’r drefn gynllunio. A chynllunio ydi’r pwnc diweddaraf sydd yn debygol o ddod â chynghorau sir Cymreiciaf Cymru benben â charfan arbennig o genedlaetholwyr. Asgwrn y gynnen ydi Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn; dogfen drom, drwchus, sy’n amlinellu sut y bydd y ddau gyngor yn dehongli rheolau Arolygiaeth Gynllunio Cymru a Lloegr dros y degawd nesaf.Mae hon yn ddogfen sydd wedi bod yn yr arfaeth ers blynyddoedd lawer. Cyn belled yn ôl â 2011 roedd y ddau gyngor yn ymgynghori ar ei chynnwys, gan deithio neuaddau pentref a chynghorau cymuned yn gofyn i drigolion yr ardal am eu barn. Serch hynny, dim ond yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae’r CDLl wedi dod yn bwnc llosg, a hynny’n bennaf oherwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi penderfynu bod y cynllun yn fygythiad i’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac wedi galw ar y ffyddloniaid i ymuno yn y frwydr yn ei erbyn. Bu beirdd a chantorion, pobl ddrama a phobl farfog yn llythyru â’r wasg, yn gofyn am ailystyried, a gohirio, a gwrthwynebu.
29 Mawrth 2014
ganDyfrig Jones
Y Wyddeleg – Iaith Swyddogol Mewn Enw’n Unig
Mae ymddiswyddiad Comisiynydd yr Iaith wedi bod yn sbardun i filoedd o bobl brotestio ar y strydoedd yn erbyn yr anghyfiawnderau dyddiol mae defnyddwyr y Wyddeleg yn eu dioddef wrth ymwneud â’r awdurdodau. Rhyw chwe wythnos yn ôl ar bnawn Sadwrn yn Chwefror ymgasglodd pobl o bob oed ynghyd â’u plant a’u hwyrion yng nghanol Dulyn ar gyfer rali fawr o blaid y Wyddeleg. Roedd eu nod yn ddeublyg. Dathlu’r iaith – ‘Ry’m ni Yma o Hyd’. A phrotestio hefyd.Roedd llawer ohonyn nhw’n gwisgo coch er mwyn dangos eu dicter eirias tuag at agwedd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus – yn y Gogledd yn ogystal â’r Weriniaeth – tuag at yr iaith. Yn ôl y trefnwyr, Conradh na Gaeilge (corff annibynnol sy’n hyrwyddo’r Wyddeleg), roedd 10,000 o bobl yno. Teithiasant o bob rhan o’r ynys. Roedd y rali, medden nhw, yn gychwyn ar ymgyrch newydd egnïol i geisio sicrhau hawliau cyfartal i siaradwyr Gwyddeleg. Mae ’na gyfres o ralïau tebyg wedi eu trefnu – gan gynnwys un fawr ym Melffast ar 12 Ebrill. Bydd yr ymgyrchwyr hefyd yn targedu’r etholiadau lleol ac Ewropeaidd ym mis Mai.Dyma i chi rai o’r anghyfiawnderau a oedd wedi ysgogi’r brotest: gwr ifanc yn ceisio dal pen rheswm yn y Wyddeleg gyda phlismon ar ôl cael ei stopio am drosedd fodurol. Cafodd ei gludo mewn cyffion i orsaf yr heddlu. A bu’n rhaid iddo aros am oriau nes y daethpwyd o hyd i rywun oedd yn medru’r iaith.Protestiwyd hefyd yn erbyn sefyllfa lle mae’r sawl sy’n sgwennu mewn Gwyddeleg at y Gwasanaeth Iechyd yn cael ateb yn Saesneg.Cythruddwyd eraill gan y ffaith bod cais gweddol rad a syml i osod labeli dwyieithog ar DVDs i ddynodi ar gyfer pa oedran y’u bwriadwyd wedi ei wrthod ar sail cwyn gan un person.Protestiwyd yn erbyn sefyllfa lle mae nifer cynyddol o’r cynlluniau i sicrhau darpariaeth drwy’r Wyddeleg yn dibynnu ar ‘yr adnoddau sydd ar gael’. Hynny yw, bod y defnydd o’r iaith yn amodol, nid yn hawl diamwys.. Eto i gyd, y Wyddeleg yw iaith swyddogol Iwerddon. Os oes dadl gyfreithiol dros union ystyr neu ddehongliad geiriau’r Cyfansoddiad yn y Llys Uchaf, er enghraifft, y fersiwn Wyddeleg sy’n cael y flaenoriaeth. Er hynny, yn ymarferol, does gan ei siaradwyr ddim o’r un hawl i gyfathrebu gyda’r awdurdodau yn eu hiaith eu hunain ag sydd gan siaradwyr Saesneg. Hynny oherwydd agweddau rhai pobl mewn awdurdod a diffyg staff sy’n medru’r iaith mewn adrannau o’r llywodraeth. Mae hon yn broblem ddifrifol yn y Gaeltacht yn arbennig lle mae pobl yn ceisio byw eu bywydau trwy gyfrwng y Wyddeleg.Ysywaeth, dydy hi ddim yn broblem newydd. Ond yn ôl yr ymgyrchwyr iaith mae’n gwaethygu. A hynny oedd wrth wraidd ymddiswyddiad Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg ym mis Rhagfyr y llynedd.
29 Mawrth 2014
Wedi’r Chwalfa – Beth Sydd ar ôl
Ffotograffau Andrew MorrisCynhelir dwy arddangosfa yng Nghaerdydd y mis hwn, un gan ffotograffydd profiadol ac uchel ei barch yng Nghymru, a’r llall gan ffotograffydd sy’n dechrau ar ei yrfa, enillydd cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru. Trwy gyd-ddigwyddiad mae’r ddwy arddangosfa yn ymweld â’r un thema. Un o luniau Andrew Morris yn ei arddangosfa What's Left Behind? Dyn ifanc 23 oed yn dechrau byw yw ANDREW MORRIS, ond aeth i’r afael â thestun sy’n perthyn i ben arall bywyd – diwedd oes, a chwalu’r cartref. Mae’n anodd deall y dynfa at destun mor brudd, ond gwrandawaf yn eiddgar wrth iddo siarad am ei waith, a hynny dros goffi ym Marina Abertawe, yn ei dref enedigol. Bu’n tynnu lluniau gyda’i gamera ers blynyddoedd, meddai, a graddiodd mewn ffotograffiaeth o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn Abertawe y llynedd. Wrth chwilio am destun dechreuodd gydag adfeiledigrwydd, ac o hynny daeth y syniad iddo am dynnu lluniau tu mewn i gartrefi oedd ar fynd ar y farchnad, ar ôl i’w perchnogion farw neu oherwydd atafaeliad.Sut aeth o’i chwmpas hi, gofynnais, ac eglurodd yntau am y modd yr âi at y gwerthwyr tai gyda’i gais, a hwythau’n cael caniatâd y teulu. Ymwelodd â thros ddeg ty i gyd, gan gymryd ei amser i osod ei gamera fformat-canol Mamyia ar ei drybedd, i wirio’r golau a’r cyfansoddiad, a chyfyngu ei hun i ddeg ffram o ffilm i bob ty. Erbyn i Andrew gael mynediad i’r tai roedd y teuluoedd wedi cael amser i fynd â phopeth o werth oddi yno, ond y syndod mawr a gafodd oedd cymaint o bethau oedd yn dal hyd y lle. A dyna deitl ei arddangosfa – ‘Yr hyn a adawyd ar ôl’. ********************Arddangosfa unigol gyntaf Andrew Morris, enillydd cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru 2013: What’s Left Behind; Chapter, Caerdydd, 14 Mawrth – 18 Mai.********************"Yn y manion mae einioes" Ffotograffau Aled Rhys HughesPan ysgrifennais am y casgliad ffotograffig yma gyntaf bron ugain mlynedd yn ôl (‘Llawnder Aelwyd Wag’, Barn 390/391, Gorffennaf/Awst 1995), roedd llinellau o awdl Ieuan Wyn ‘Llanw a Thrai’ yn benthyg eu hunain yn naturiol i’r erthygl, a dyma nhw unwaith eto, yn mynd law yn llaw â’r lluniau. Pan aeth y bardd i aelwyd wag taid a nain mynegodd ei brofiad mewn cynghanedd. Aeth ALED RHYS HUGHES yno gyda’i gamera, ac mae’n rhyfedd fel y mae’r ddau gyfrwng yn gorgyffwrdd. Ers pan oedd yn bum mlwydd oed bu Aled yn treulio’i hafau gyda’i daid a’i nain yn Llansannan, yn y byngalo a gododd y ddau ar ôl ymddeol o’u fferm. Gallai’r plant rannu gyda Ieuan Wyn y profiad o redeg ‘i dy hyfrydwch, a’r Gymraeg / Ym mro diogelwch’, a derbyn croeso o’r math na all neb ond taid a nain ei roi i blentyn. Does ryfedd fod yr atgofion yn tywynnu’n gynnes o’r gorffennol.Ugain mlynedd a mwy ar ôl i Dafydd ac Elizabeth Hughes godi’r bwthyn, safai Aled yn eu parlwr yn graddol dderbyn na ddeuent yn ôl i Lys Euryn i gynnau’r tân nac i hulio’r bwrdd. Bu’r ty’n wag ers peth amser gan fod Taid a Nain bellach mewn cartref preswyl, a daeth yn rheidrwydd ar Aled i gofnodi hynny a fedrai o’u cartref tra oedd yn dal yn llawn o’u presenoldeb. Tynnodd dros ddau gant o ffotograffau cyn y chwalfa anochel a ddaeth yn fuan wedyn, ar ôl marw Dafydd yn 1993 ac Elizabeth yn 1994. Lluniau yw’r rhain a dynnwyd o safbwynt personol am resymau personol, i roi ar gof a chadw atgofion am ddau a fu’n annwyl ganddo ac a fu’n ddylanwad arno o’i blentyndod. ********************Bydd lluniau Aled Rhys Hughes i’w gweld yn Adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd o 4 Ebrill ymlaen, a byddant i fyny am dri mis.
29 Mawrth 2014
