Thema dywyll Thema golau

Chwarae jazz wrth i’r cysgodion ddwysáu

Clawr llyfr sy'n cael ei adolygu Clawr llyfr sy'n cael ei adolygu

Er gwaethaf ambell fan gwan mae stori’r nofel hon, sydd wedi’i gosod yn Berlin y 1930au, yn un bwerus, meddai ADAM PEARCE.

Hiraeth Neifion
Simon Chandler
tt. 308, Carreg Gwalch, £9.99

I mi, mae wastad yn ddechrau da os yw nofelydd Cymraeg yn dewis troedio’r tu hwnt i lwybrau cyfarwydd Cymru, ei hiaith, ei phobl a’i hanes, wrth lunio ei nofel (iawn, chwarelwr o Flaenau Ffestiniog yw un o gymeriadau Hiraeth Neifion – ond dydi hynny ddim o unrhyw bwys mewn gwirionedd ac ni fyddai’r nofel fymryn yn wahanol nac yn llai nofel petai’n gondolier o Fenis). Prin y gellir dweud bod y Natsïaid wedi eu tangynrychioli mewn ffuglen, ond nid y rhyfel ei hun yw’r cefndir y tro hwn, ond awyrgylch peryglus ymyl-y-dibyn Berlin yn y cyfnod yn union cyn iddynt gipio grym. Mae’n gefndir hollol gyfareddol i nofel, ond un sydd, hyd y gwn i, yn newydd i nofel Gymraeg.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Clawr llyfr sy'n cael ei adolygu

Shinani’n Siarad

Ymlaen >
Richard Wyn Jones a Jerry Hunter

Sgwrs dau ffrind gerbron miloedd