Thema dywyll Thema golau

Chwaraeon – Pam Nad Oes Mulod Ar Brom Y Rhyl

Cafodd y dyfarnwr yn y gêm rygbi erchyll rhwng yr Alban a Chymru y 9fed o Fawrth ei lambastio hefyd – am roi mwy o giciau cosb y gellid eu hanelu at y pyst na’r un dyfarnwr arall yn hanes rygbi rhyngwladol. (Yr oedd y sgrymiau’n ddigon o lanastr i’r Undebwr mwyaf unllygeidiog gyfaddef fod Rygbi’r Gynghrair wedi bod o leiaf yn rhannol-ddoeth i hepgor sgrymiau wyth-dyn genedlaethau’n ôl.)

Yr un diwrnod yn West Bromwich, oherwydd i’r dyfarnwr yno (neu’r llumanwr, neu’r ddau ynghyd) gamddehongli’r rheolau camsefyll, amddifadwyd Abertawe o gôl a fuasai wedi sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y Baggies. Parodd hyn i Michael Laudrup hyd yn oed – yn swyddogol yr uchaf ei barch o blith rheolwyr y Brif Adran – gwyno’n gyhoeddus. (Ond petai Michu wedi sgorio yn lle methu’r cyfle gwych a gafodd yn y deng munud agoriadol, ni fyddai dim ots am y gôl nad oedd ddim yn gôl.)

Fe wnaeth y dyfarnwr yn West Brom gamgymeriad, heb os nac oni bai. Am y dyfarnwr ym Murrayfield, fe allasai fod yn fwy goddefgar, ond dehongli rheolau anodd a wnaeth, nid eu diffinio. A chyda golwg ar y dyfarnwr yn Old Trafford, er bod yn agos i fis wedi mynd heibio er i Nani godi’i droed a tharo asennau Arbeloa, ofnaf nad wyf i eto wedi penderfynu p’un ai cerdyn melyn neu gerdyn coch a roeswn iddo.

    Yn dilyn o hyn, dyma ddau sylw:

(1)    Meidrol yw pawb, pob dyfarnwr, pob llumanwr, pob rheolwr (hyd yn oed y bwytäwr mulod), pob chwaraewr. Ni ellir perffeithrwydd. Dealled y ffanatig gwylltaf mai synnwyr cyffredin yw hyn. Ond wrth gwrs dyw’r ffanatig gwylltaf ddim yn synhwyro’n gyffredin.   

(2)    Cyn bo hir bydd yn rhaid deddfu na chaiff chwaraewyr pêl-droed gega gyda chanolwyr bob tro y chwythant eu chwib, ac na chaiff rheolwr rantio amdanynt wedi i’r gêm ddod i ben. Mewn rygbi, hyd yn oed pan mae’n amlwg fod reffarî yn cyfeiliorni’n llwyr, ni wnaiff yr un chwaraewr redeg ato a’i regi, fel mewn socer; ac ychydig o ddim a ddywed neb arall amdano. Yr oedd gweithred Rio Ferdinand yn curo’i ddwylo’n sarcastig o dan drwyn y dyfarnwr ar derfyn y gêm gyda Real yn llwyr haeddu gwaharddiad hir a dirwy drom, ond anwybyddodd swyddogion UEFA’r peth er eu bod wedi rhoi’r gair RESPECT ar grys pawb. Ar ôl iddo feirniadu un reffarî yn 1984, ac edifarhau, byddai Brian Clough – clod i’w enw – yn cystwyo pob chwaraewyr a ddadleuai gyda dyfarnwr ar y cae; a chadwai yntau ei geg ar gau. Tan y deddfir ar y mater hwn, trueni na ddilynai rheolwr pob clwb drwy’r byd yr arferion gwâr hynny.

Yr 11feg o Fawrth dathlodd Louise Brough ei phen-blwydd yn 90. Cofiaf glywed y sylwadaeth ar ei ffeinal hi a Maureen Connolly yn Wimbledon yn 1952 ar radiogram fawr newydd Anti Gwen, y celficyn llafar cyntaf a oddiweddodd y weiarles yng nghartref neb o’n tylwyth ni. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yr oedd Little Mo yn ei bedd. Ac Anti Gwen.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ffransis y Cyntaf - Pab Cyntaf De America

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Troedigaethau?