Gydag arogleuon y garlleg gwyllt ar gyrion y llwybrau i ddeffro’r archwaeth bwyd, fe ddaeth yn wanwyn, sydd i mi yn golygu gwinoedd gwyn ffres, rosé bywiog a chochion ysgafn. Mae yna le hefyd i’r pefriog wrth eistedd yn yr ardd wedi i’r dydd ymestyn, ac wele’r Blanquette de Limoux M le Mauzac Reserve Antech 2022 (£12.25, Wine Society). Mauzac yw’r rawnwinen yma, sy’n rhoi i chi winoedd ffres gydag awgrym o afal ac ysgawen. Mae mymryn o felyster i’r gwin hwn hefyd, a fyddai’n ei wneud yn apelgar i bobl nad ydynt yn hoff o’u gwinoedd pefriog yn sych grimp. O ran y rosé, dwi’n hoff iawn o winoedd y cynhyrchydd Alovini yng ngwaelod yr Eidal.
Chwech i’r gwanwyn
Bwrdd bwyd wedi ei osod yn yr awyr agored hefo poteli a gwydriaid o win
