Doeddwn i ddim yn bwriadu darllen y ‘cerddi’ hyn o ddifri nes i mi weld y datganiad i’r wasg am y gyfrol, gan ’mod i wastad yn cymryd cyhoeddiadau felly o ddifri. Meddai’r awdur yno, ‘Mae Plaid Cymru, yn eu hysfa i ennill grym ar unrhyw gyfri, wedi colli’r plot. Mae’r cerddi hyn yn trio mynegi dim mwy a dim llai na theimladau’r Cymro cyffredin.’
Mae sawl cwestiwn yn ymhlyg yn y ddwy frawddeg yna. Ensynnir bod gan blaid wleidyddol ‘blot’ nad oes a wnelo ag ‘ennill grym’, bod hynny rywfodd yn groes i ‘deimladau’ pobl Cymru a bod hyn i gyd yn gallu cael ei ‘fynegi’ mewn ‘cerddi’. Mae’r syniad fod barddoniaeth yn gallu mynegi teimladau pobl gyffredin yn h?n na Syr John Morris-Jones a John Ceiriog Hughes i enwi dim ond dau delynegwr Rhamantaidd. Cysyniad elitaidd, Rhamantaidd yw bod y fath bethau â phobl gyffredin sydd angen ‘beirdd’ i ‘fynegi’ eu teimladau.
Dinasyddion a chanddynt hawliau yw pawb o bobl Cymru fel pob gwlad a gwladwriaeth arall ers cyhoeddi gweithiau disglair athronydd gwleidyddol pwysicaf Cymru, Richard Price. Craidd ei athroniaeth wleidyddol gyfansoddiadol ef yw mai’r bobl eu hunain yw tarddle awdurdod pob llywodraeth ac felly na all unigolion fod yn atebol i lywodraeth heb gydsyniad a chyfranogaeth. Mae’n dilyn felly fod gan bob cymdeithas yr hawl i’w llywodraethu ei hun. Roedd Richard Price yn sgrifennu ei weithiau sylfaenol ar ddemocratiaeth yng nghanol Rhyfel Chwyldroadol Annibyniaeth America.
Mae Richard Price yn absennol o ‘gymundeb oesol y Cymry byw a meirw’ yn y cerddi hyn. Does ryfedd, gan fod y ddelwedd o ‘Gymru’ a arddelir yn y gyfrol yn sylfaenol wrthddemocrataidd a bod y defnydd o’r gair ‘chwyldro’ ynddi yn chwerthinllyd.
Serch honni bod testunau’r mwyafrif o’r cerddi yn wleidyddol, does yma ddim dealltwriaeth o natur proses wleidyddol, rôl gyfansoddiadol pleidiau na moesoldeb cyhoeddus cynrychioliadol:
does dim senedd na dim cwango
na gwleidyddion slei, dan din:
mae pawb yn cynrychioli’i hun…
Anarchiaeth wrthddemocrataidd yw hynna. Oherwydd ‘athroniaeth wleidyddol’ y cerddi hyn yw bod y Cymry’n amharod i weithredu gwleidyddiaeth ‘chwyldroadol’ a fydd yn arwain at ‘annibyniaeth’, bod gwleidyddion cynrychioliadol yn bradychu gweledigaethau, ac mai gwir elyn Cymru yw digriflun hiliol o ‘sais’. Ar ôl darllen dwsin a mwy o enghreifftiau o’r gair am y genedl agosaf atom fe rois i fyny, wedi ’laru. Ond ochr arall y digriflun o ‘sais’ yw’r digriflun o’r Cymro o genedlaetholwr diwylliannol yn mynnu chwyldro ar sail sawl peint yn y Llew Du. Mae popeth arall yn ‘ffars’:
petai y Cymry’n codi – dyna ffars:
tebycach chwyldro ar y blaned Mars.
pwy gaech chi i wneud y job – cenedlaetholwyr?
mae’r rheini nawr i gyd yn ddatganolwyr.
‘Colli’r freuddwyd’ yw’r dehongliad a gynigir o ymarfer democrataidd. ‘Colli’r plot’ i ennill grym yw’r cyhuddiad yn erbyn gwleidyddiaeth ymarferol.
dilyn baner Cymru
lawr i Fae Caerdydd,
methu gweld arwyddion
o’r Gymru newydd rydd…
...ymladd brwydr newydd
er mwyn achub blaen,
ymladd hen un eto,
bwrw’r un hen faen;
para i obeithio
am ryw chwyldro sydyn,
dilyn baner Cymru
am mai Cymry ydym.
Methu gweld arwyddion y Gymru Newydd y mae awdur y gerdd hon am nad yw am edrych, gan nad yw arwyddion gweladwy ffenomen cenedl a gwlad sy’n tyfu’n wladwriaeth yn cyd-fynd â ‘chwyldro’ amser cinio’r Llew Du.
Mae dwy set o bedair baner yn cyd-gyhwfan o gylch T? Hywel, y Senedd a’r Pierhead ym Mae Caerdydd – baneri’r Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig, y Ddraig Goch a logo dirmygedig (t.66) y Cynulliad Cenedlaethol ymhonnus (‘dim Assembli’). Dyma arwyddion y ‘ffederasiynau cyfansoddiadol’ y perthyn y Gymru ddatganoledig iddynt. Mae’r berthynas ag ‘ardderchog o goron Lundain’ yn mynd nôl i’r berthynas nodedig rhwng Hywel Dda (yr enwir T? Hywel ar ei ôl) ac Aelfred o Wessex yn y 10g. Gan iddo dderbyn penarglwyddiaeth Seisnig i gyfwynebu’r Llychlynwyr, gellir coffáu Hywel y Deddfroddwr fel Hywel y Datganolwr Cyntaf. Dyna fu polisi Dyfed a Gwynedd ers hynny, yn enwedig yn ystod cyfnod uchafiaeth ddisglair Arglwyddiaeth Nant Conwy.
Egwyddorion Richard Price, nid ‘athroniaeth’ y cerddi hyn, fydd sail dyfodol cyfansoddiadol Cymru a phob cymdeithas arall mewn byd o ddirwasgiad cyd-ddibynnol lle na all unrhyw wladwriaeth
…sgubo llawr y Senedd gydag araith
yn hawlio – haleliwia – Annibyniaeth?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

