Thema dywyll Thema golau

Clwb Wcreiniaid Treforys

erthygl-ebrill-2022-2329-1223 erthygl-ebrill-2022-2329-1223
Mae’n rhaid bod yna ddeg neu hyd yn oed bymtheg o flynyddoedd wedi mynd heibio ers cau’r clwb Wcreinaidd enwog yn Nhreforys. Clamp o adeilad concrit deulawr, braidd yn brutalist o ran ei bensaernïaeth, ac arno’r geiriau UKRAINIAN CLUB mewn priflythrennau glas amlwg. Fe fyddai wastad yn denu fy sylw o sedd gefn y car wrth inni deithio heibio fel teulu ar y ffordd i lawr o’r cwm i siopa yn Abertawe neu i wylio tîm rygbi’r dre yn chwarae yn Sain Helen ar brynhawn Sadwrn. Doedd yr enw Wcráin yn golygu fawr ddim i mi er bod fy rhieni, mae’n siŵr, wedi esbonio ble’r oedd y rhan yma o’r byd ac o bosib pam yr oedd cymuned o Wcreiniaid wedi dod i fyw i’r ardal. Ond un peth sy’n sicr, roedd yr enw a’r adeilad yn teimlo’n eithriadol o egsotig o gymharu â llefydd eraill yn Nhreforys y 1970au, ac yn ennyn chwilfrydedd plentyn – pwy oedd yn mynd yno, beth oedd yn digwydd tu ôl i’r waliau llwyd a hyd yn oed pa iaith yr oedden nhw’n ei siarad?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-ebrill-2022-2328-1222

Niwtral – ond ddim yn hollol niwtral

Ymlaen >
erthygl-ebrill-2022-2330-1224

Animeiddio, adfywio ac archaeoleg – gwaith Sean Harris