Thema dywyll Thema golau

Clychau Priodas

Gallaf ddibynnu ar y ddau i wneud yr un peth y tu allan i’m breuddwydion hefyd. Ond Kristin yw’r un a ymddangosa amlaf yn yr arallfyd y tu mewn i’m pen yn ystod oriau hir y nos. Yn debyg i’w phersonoliaeth go iawn, daw gyda geiriau caled ond teg, geiriau gonest ond caredig. Faint o weithiau mae hi wedi dweud y drefn wrthyf, neu ofyn ambell gwestiwn anodd? Pryd bynnag y daw hi yn fy mreuddwydion, mi wn erbyn hyn nad yw’n foment i’w hanwybyddu. Nid breuddwyd arall am golli’r trên nac anghofio gwisgo trowsus i gyfweliad yw hwn, ond rhywbeth pwysig.

Breuddwydiais fy mod yn cerdded lan y llwybr graean hir sy’n arwain at y caban sydd gan Eric a Kristin ar lannau Long Lake, ym Minnesota. Mae’n gaban di-nod sy’n guddiedig mewn tamaid o goedwig wyllt. Yn ystod yr haf daw teuluoedd Eric a Kristin lan i chwarae gemau ar y lawnt, nofio yn y llyn, coginio ar y gril, ac yfed a siarad wrth y tân trwy’r nos.

Mae’n hafan. Mae’n solas. Nid yw’r hen boen feddyliol yn fy mhlagio pan ydw i yno. Weithiau, treuliaf oriau’r dydd yn gorweddian mewn hamog, yn gwylio’r faner UDA ar ddoc Eric a Kristin (mae gan bob caban ei ddoc) wrthi’n chwifio’n dawel yn awel yr haf.

Felly roeddwn yno yn fy mreuddwyd, yn cerdded lan y llwybr at y caban a dyma Kristin yn dod allan o’r caban ac yn cerdded tuag ataf. Dyma gwrdd o dan hen dderwen lle bydda i’n gosod pabell pan fydd torf o deulu a ffrindiau’n ymweld, a rhoddodd hi ei dwylo ar fy ysgwyddau.

‘You must like the sound of wedding bells,’ meddai hi. Gwenodd a’m cofleidio. Teimlais ddeigryn yn fy llygad, o wybod bod pethau’n iawn; roeddwn yn barod.

Dihunais yn ystafell sbâr fy rhieni, yn ôl ym Minnesota, gyda Jenn wrth fy ochr. Roeddem yn ymweld â’m teulu dros y Nadolig. Dyma’r tro cyntaf imi fynd adref ar gyfer y Nadolig ers 2005, a’r tro cyntaf i Jenn weld yr ardal lle cefais fy magu.

Rai dyddiau wedyn, wrth inni gerdded ar lan Nine Mile Creek, stribyn o ddwr sy’n golygu cryn dipyn i fi, trois at Jenn a dechrau sôn am yr hyn sydd ar fy meddwl ac yn fy nghalon. Soniais am fy hanes, fy mhresennol a’r dyfodol y gobeithiaf amdano.

‘And when I think of the future,’ meddwn i, yn estyn am flwch yn fy mhoced, ‘I know I want you as a part of it.’ Agorais y blwch a thynnu modrwy syml allan ohono – y fodrwy orau y gall cyflog tiwtor Cymraeg ei fforddio, sy’n fodrwy druan o bitw. Gofynnais iddi fy mhriodi. ‘Of course,’ meddai hi.

Felly, dyma fi. Ar y daith unwaith eto. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl roedd fy mhriodas gyda Rachel ar fin gorffen, a bu’r adeg a ddaeth ar ôl hynny’n waeth nag y gallwn erioed fod wedi ei ddychmygu. Poen ar ben poen ar ben poen ar ben poen. Ond bellach mae rhywbeth ynof yn fodlon mentro unwaith eto; mae rhywbeth ynof yn teimlo bod pethau’n iawn. Rydw i’n barod.

Mae ofn, afraid dweud. Mae ofn methu, neu wneud yr un camgymeriadau ag o’r blaen. Mae ofn cael fy ngadael. Mae ofn pob mathau o bethau na allaf eu gweld na’u rhagweld o’m safbwynt presennol. Ni allaf broffwydo’r dyfodol ac mae hynny’n codi ofn.

Ond mae’n rhaid symud ymlaen. Mae’n rhaid byw. Rydw i’n caru eto a bellach rydw i’n paratoi i briodi eto.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd: Ffiniau Nid Cyffiniau

Ymlaen >

Meistres y Tannau