Thema dywyll Thema golau
Bucha, Borodyanka a byddin Rwsia
Codi cenedl – esiampl ‘Gwyddel mwyaf yr Ugeinfed Ganrif’
Anllywodraeth y Cedyrn

Codi cenedl – esiampl ‘Gwyddel mwyaf yr Ugeinfed Ganrif’

erthygl-mai-2022-2338-1234 erthygl-mai-2022-2338-1234
Ers blwyddyn a mwy, hanes Iwerddon sydd wedi mynd â’m bryd. Yn benodol, hanes Iwerddon yn ystod y ganrif ddiwethaf. A pha syndod? O edrych yn ôl, dros ganrif yn ddiweddarach, onid yw’n amlwg fod dylanwad y chwyldro a gychwynnwyd yn ystod Pasg 1916 wedi profi’n fwy pellgyrhaeddol a hirhoedlog na’r chwyldro hwnnw a gychwynnodd ym Mhetrograd (fel yr oedd ar y pryd) gwta ddeunaw mis yn ddiweddarach? Llwyddodd y Gwyddelod nid yn unig i agor bedd imperialaeth Brydeinig: ar risiau Prif Swyddfa Bost Dulyn y seiniwyd tranc imperialaeth orllewinol drwy’r trwch. Dal i ddisgwyl yr ydym am wawrddydd sosialaeth fyd-eang... Mae’r dramatis personae mor rhyfeddol o ddiddorol hefyd. Dyna i chi ddycnwch a gweledigaeth Arthur Griffith – newyddiadurwr a’i wreiddiau teuluol yn Nrws-y-coed a newidiodd gwrs hanes cenedl a thrwy hynny danseilio’r Ymerodraeth fwyaf a welodd y byd erioed. A phrin fod ffigwr mwy rhamantus yn holl hanes y ganrif ddiwethaf na Michael Collins, y gŵr a lwyddodd i herio grym milwrol yr Ymerodraeth honno.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2022-2337-1233

Bucha, Borodyanka a byddin Rwsia

Ymlaen >
erthygl-mai-2022-2339-1235

Anllywodraeth y Cedyrn