Thema dywyll Thema golau

Cofio Charli Britton

erthygl-hydref-2021-2276-1175 erthygl-hydref-2021-2276-1175
Roedd tad Charli yn gyd-berchennog siop ddillad dynion Britton & Hopkins yn Nhreganna, Caerdydd, ond roedd yn well gan Charli gyfeirio at ardal ei febyd fel ‘Canton’, ac roedd yn un o’r bobol brin hynny oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg gydag acen Caerdydd. (Yn wir, haera rhai mai Charli a ddyfeisiodd acen ysgolion Cymraeg Caerdydd!). Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, ac ymlaen i fod ymhlith disgyblion cynharaf Ysgol Gyfun Rhydfelen. Magwraeth ac addysg nodweddiadol o ddosbarth canol Cymraeg Caerdydd, efallai, ond doedd dim byd confensiynol yn perthyn i Charli. Roedd yn gymeriad ar ei ben ei hun, a heb newid fawr ddim, gallech feddwl, ers dros hanner can mlynedd. Roedd yn fythol ifanc, yn fythol ddireidus, yn fythol greadigol, ac yn llawn syniadau am y dyfodol. A dyna pam y daeth y newydd am farw’r drymiwr a’r dylunydd fel taranfollt i’w ffrindiau a’i gydnabod.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2021-2275-1174

Mamau ‘anfamol’ – drama newydd Rhiannon Boyle

Ymlaen >
erthygl-hydref-2021-2277-1176

Pen-bwydd hapus TG4 – holi pennaeth y sianel deledu Wyddeleg