Thema dywyll Thema golau

Cofio Elystan Morgan – dyn dewr o argyhoeddiad anghyffredin

erthygl-awst-2021-2255-1156 erthygl-awst-2021-2255-1156
Ym marw Elystan Morgan collodd Cymru un o’i gwleidyddion mwyaf blaenllaw gynt, barnwr doeth, un o’i chynrychiolwyr taeraf yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac areithiwr llwyfan gyda’r coethaf a mwyaf diwylliedig a fagodd ei genhedlaeth. Yn ei ieuenctid a’i ganol oed cynnar ef oedd un o arweinwyr gwir garismatig Plaid Cymru, a phan ymunodd â’r Blaid Lafur yn 1965 am ei fod yn credu taw drwyddi hi y ceid mesur o ymreolaeth i’r Hen Wlad achosodd rincian dannedd a diflastod enbyd ymysg y cenedlaetholwyr, a’i gwelai fel olynydd naturiol Gwynfor Evans. Ym Mawrth 1966 cipiodd sedd Sir Aberteifi oddi wrth Roderic Bowen. Yn 1968 cafodd ei benodi’n Is-Ysgrifennydd y Swyddfa Gartref yn llywodraeth Harold Wilson. Ar ôl i’r Ceidwadwyr ennill etholiad cyffredinol 1970, bu’n llefarydd ar Faterion Cartref i’r Wrthblaid am ddwy flynedd ac am ddwy flynedd arall bu’n llefarydd ar Faterion Cymreig. Yn 1974 adenillodd Geraint Howells Sir Aberteifi i’r Rhyddfrydwyr. Bum mlynedd yn ddiweddarach safodd Elystan fel ymgeisydd i olynu Cledwyn Hughes ar Ynys Môn. Collodd eto, y tro hwn i’r Tori Keith Best o bawb.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-awst-2021-2254-1155

Croeso i Wlad yr Asyn – holi Wyn Mason

Ymlaen >
erthygl-awst-2021-2256-1157

Dave y llythyrwr – a phrociwr y sefydliad