Thema dywyll Thema golau

Cofio Gareth ‘Parc’

Gareth 'Parc' Gareth 'Parc'
Ym Mehefin 1982 roedd Rhyfel y Falklands yn ei anterth a thon o Brydeindod neo-ymerodraethol yn sgubo drwy’r wlad. Ynghanol yr hysteria hwn, ar 2 Mehefin, dechreuodd Gareth Llwyd Dafydd, myfyriwr yng Ngholeg Harlech, ar ympryd dros hawliau iaith yn y sefydliad. Yr ysgogiad oedd penodi D.G. Henderson, gŵr di-Gymraeg o gyffiniau Manceinion, yn Gofrestrydd. Hyd nes y gwyrdroid y penodiad, ymdynghedodd Gareth i barhau hyd eithaf ei allu â’i ympryd. Nawddoglyd oedd ymateb dechreuol awdurdodau’r Coleg. Ond wrth i ddeiseb o blaid yr ymprydiwr gael ei llofnodi ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhwllheli gan rai megis Dafydd Wigley AS, Geraint Howells AS ac I.B. Griffith, ac yn sgil ymyrraeth yr AS lleol Dafydd Elis-Thomas, roedd y Coleg i’w weld yn colli’r frwydr gysylltiadau cyhoeddus yn llwyr. Ar ôl 17 diwrnod, daeth yr ympryd i ben wedi i Mr Henderson a Joe England, Warden y Coleg, ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn dilyn addewid y byddai’r sefydliad o hynny allan yn ystyried y Gymraeg yn gymhwyster proffesiynol anhepgor wrth benodi i swyddi.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Rhai o aelodau cangen Merched y Wawr Dyffryn Ceiriog ar ymweliad â Sycharth, Gorffennaf 2022

Heb Ferched (ymroddgar), heb Wawr

Ymlaen >
Rishi Sunak ar ymweliad â Llu’r Ffiniau ger Dover

‘Pleidleisio negyddol’ a’i ganlyniadau