Thema dywyll Thema golau

Cofio Gwilym Tudur

Gwilym Tudur Gwilym Tudur
Roedd Gwilym Tudur yn ffigwr allweddol yn neffroad ieithyddol y 1960au a’r 1970au yng Nghymru. Fe, yn fy nghof i, arweiniodd y criw o brotestwyr rhwystredig o’r Home Cafe i Bont Trefechan ym mis Chwefror 1963. Roedd rhwystro’r traffig yn syniad gwallgo ond fe lansiodd Gymdeithas yr Iaith ar lwybr hir a llwyddiannus o weithredu anghyfreithlon. Yn nes ymlaen, wrth sefydlu Siop y Pethe yn 1968, roedd Gwilym ar flaen y don o genedlaetholwyr ifanc a sefydlodd fusnesau Cymraeg yn y gorllewin. Gwilym, hefyd, yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas, oedd y cyntaf i wyntyllu’r syniad o sianel deledu uniaith Gymraeg. Roedd gan Gwilym ddylanwad gwleidyddol ond hefyd swyn personol. Roedd ei natur foneddigaidd a’i hiwmor yn cuddio argyhoeddiadau dyfnion, a etifeddodd trwy ei fagwraeth ddiwylliedig ar fferm Bryn Dewin yn Chwilog, Eifionydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Marshaliaid UDA yn casglu ac yn dinistrio poteli gwin Rudi Kurniawan, Creedmoor, Texas, Rhagfyr 2015

Hardy a Rudy a thwyllwyr eraill

Ymlaen >
Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru

Buddugoliaeth niweidiol