Thema dywyll Thema golau

Cofio Hazel Walford Davies 1940-2025

Hazel Walford Davies. Llun: Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ym marwolaeth Hazel Walford Davies ddiwedd mis Tachwedd collodd Cymru ysgolhaig a beirniad o fri, hyrwyddwr penderfynol addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch, a gwraig o gymeriad tra chofiadwy. Yma mae un a’i hadnabu fel cyd‑academydd yn Aberystwyth yn tystio i’w doniau deallusol ac un a fu’n fyfyrwraig iddi yn ystod canol y 1980au yn dwyn i gof fwrlwm rhyfeddol ei phersonoliaeth.

Colli lliw o fyd llên

Brodor o Fancffosfelen oedd Hazel, yn ferch i Brinley Powell, a weithiai yng nglofa glo caled Pentre‑mawr, a’i wraig ddiwylliedig Olive (née Walters). Yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth yr oedd Walford Davies, ei phriod maes o law am 60 mlynedd, yn gyd‑ddisgybl. Aeth Hazel i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gyfraith, pwnc ‘ofnadwy o sych’ a barodd iddi fudo i’r Adran Saesneg lle bu W. Moelwyn Merchant yn ddylanwad arni. Yn rhinwedd ei chynhysgaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoethog a’i hyfforddiant proffesiynol mewn Saesneg, rhychwantai Hazel ddau ddiwylliant llenyddol Cymru yn gyfforddus esmwyth. Ar ôl cymhwyso’n athrawes yn Rhydychen lle’r astudiai Walford, un sefydliad y dysgodd ynddo oedd y Malvern Girls’ College.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ieuan Rees 1941‑2025

Ymlaen >

Geiriau’n pefrio o gariad