Thema dywyll Thema golau
Creu ar y cyrion
Cofio Hywel Francis – y ‘Rhyngwladolwr Cymreig’
Cofleidio perygl

Cofio Hywel Francis – y ‘Rhyngwladolwr Cymreig’

erthygl-ebrill-2021-2212-1118 erthygl-ebrill-2021-2212-1118
‘Gwell yw Caru’r Ddaear Gyfan’. Geiriau’r bardd Elfed ar faner cyfrinfa’r glowyr ym mhwll glo Rhif 1 yr Onllwyn. Maent yn ein helpu i ddeall bywyd Hywel Francis, a fu farw ym mis Chwefror, a’i gyfraniad aruthrol at fywyd ei genedl. Yn Aelod Seneddol Llafur Aberafan o 2001 hyd 2015, roedd Hywel yn eiriolwr cryf ar ran y cymunedau dosbarth gweithiol y bu’n eu cynrychioli. Roedd ei sosialaeth yn gyfuniad o safbwyntiau cymunedol a rhyngwladol. Fel cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig a’r Cydbwyllgor ar Iawnderau Dynol yn San Steffan amlygodd ei fedr, ei gynhesrwydd a’i grebwyll gwleidyddol, a phe bai Llafur wedi ennill etholiad cyffredinol 2010 hawdd y gellid dychmygu Hywel yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng nghabinet Gordon Brown. O’i holl orchestion seneddol, mae’r un yr oedd yn fwyaf balch ohoni yn deillio o’i yrfa mewn addysg oedolion a’i deulu cariadus ei hun. Roedd ei fesur preifat, a ddaeth yn ddeddf yn 2004, yn sicrhau cyfleoedd addysg a hyfforddiant i ofalwyr di-dâl.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-ebrill-2021-2210-1117

Creu ar y cyrion

Ymlaen >
erthygl-ebrill-2021-2214-1119

Cofleidio perygl