Thema dywyll Thema golau

Cofio Meic Povey (1950–2017)

erthygl-chwefror-2018-1842-743 erthygl-chwefror-2018-1842-743

Adios ’rhen fêt

Drwy Gymru benbaladr, yr awdur a’r actor Meical Povey oedd o. Ond i mi, ffrind agos, triw a ffyddlon am oes gyfan, bron iawn, oedd Meic. Bu’n wael gyda chanser am tua deunaw mis a brwydrodd yn ddewr yn ei erbyn. Bob tro y siaradwn ag o, byddai’n llawn gobaith. Atebai’r ffôn yn union fel yr arferai wneud ar hyd y blynyddoedd, ‘Johnny, how the devil are you?’ Ar ôl i mi holi sut oedd o, deuai’r ateb: ‘Dwi cystal ag y medr dyn pedair a thrigain oed efo un sgyfaint fod!’ Yn wir cafodd ychydig fisoedd o ryddhad dros yr haf diwethaf. Ond dychwelodd y clefyd yn yr hydref. Roedd Meic bellach yn gwybod ei dynged. Ond daliai i ymladd efo’r egni aruthrol a oedd yn gymaint rhan o’i wneuthuriad. Drwy negeseuon testun y byddem yn cysylltu tua’r diwedd. Yr olaf o’r negeseuon hynny oedd hon: ‘Yn gyfforddus, John, yn cael y gofal a’r cariad gora bosib.’ Dim gair o gŵyn…

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2018-1841-742

Enillydd y Cwis

Ymlaen >
erthygl-chwefror-2018-1844-744

CBAC – penodi Prif Weithredwr di-Gymraeg