Thema dywyll Thema golau

Cofio Nesta Wyn Jones

Portread Portread
Nesta Wyn Jones ar achlysur cyflwyno ei gwaith i Gyfeillion Plas Hendre, Aberystwyth. Trefnwyd y noson gan Bethan Miles

Ganol y 1960au y dechreuodd Nesta Wyn Jones, y bardd o Abergeirw, ymhél â barddoniaeth o ddifri. Bu anogaeth ei darlithwyr ym Mangor, yn enwedig Gwyn Thomas, yn werth y byd iddi ac yn sbardun i gyhoeddi ei chyfrol gyntaf, Cannwyll yn Olau (1969), a enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Beirdd Ifanc Cyngor y Celfyddydau. 

Daeth cyfrol arall bob rhyw ddegawd ar ôl hynny: Ffenest Ddu (1973), Rhwng Chwerthin a Chrio (1986), a enillodd wobr Cyngor y Celfyddydau, a Dawns y Sêr (1999). Roedd Nesta ei hun yn dipyn o seren ar y pryd gan mai prin iawn oedd y merched oedd yn barddoni yn y Gymraeg a ’does dim amheuaeth na chafodd ddylanwad ar genhedlaeth newydd o feirdd benywaidd.

Yr oedd yn fardd cynnil, crefftus a dwys, er iddi gyfansoddi nifer o gerddi doniol ar gyfer achlysuron arbennig.

< Yn ôl
Dyn yn edrych ar y tirwedd drwy ffenestr trên

Wynebu celwydd trwy lun a gair – gwaith Anthony Shapland

Ymlaen >
Bwrdd bwyd yn yr heulwen hefo poteli gwin

Chwech i’r gwanwyn