Thema dywyll Thema golau

Cofiwch Dryweryn – Oes Angen?

Prin yn wir fod Ffrainc yn dathlu Waterloo, ac y mae Churchill a’i ‘never have so many owed so much to so few’ yn cael ei Brydeinllyd bledu atom yn y Wlad Yma byth a hefyd. Mae gan yr Alban hyd yn oed ei Bannockburn. Led-genedl ag yr ydym, ymgofiwn ninnau am Gatraeth am Gilmeri a Glyndwr, y Deddfau Uno, Brad y Llyfrau Gleision, Penyberth, ac yn yr un olyniaeth Dryweryn: gormesau a methiannau arwrol, nid heb arwyddocâd o ran ein cyflwr.

Mi oedd byd dro’n ôl ynglyn â’r wal murddun i’r de o Flaen-plwyf, lle mae’r slogan am Dryweryn ar ochr y lôn – a bod gofyn ei warchod. ‘Cofia Dryweryn’ oeddwn i’n feddwl oedd o’n wreiddiol, p’run bynnag ‘Cofiwch Dryweryn’ sydd yna erbyn hyn; yn nes at gyfarwyddyd mewn dogfen gan y DVLA. Bron nad yw hynny ynddo’i hun yn damweiniol awgrymu fod y graith wedi hen gau a bod parchusion a phobl iach eu crwyn yn cael edrych ar yr holl beth fel rhywbeth diogel i ymddyrchafu yng ngoleuni ei gysgod.

Pitw o gymhariaeth yw’r hyn a gollwyd gennym yn Nhryweryn, a Llanwddyn a Chwm Elan a Chlywedog. Mae argae’r Tri Cheunant yn Nhjeina yn rhywbeth na wn nesaf peth i ddim amdano, ond ei fod wedi disodli dros filiwn o bobl lawer heb fod yn Jeinïaid (ond yn y modd yr ydym ninnau’n Brydeinwyr), beth hylltod o fannau hynafol a thrysorau amgylcheddol gwerthfawr. Mae’r horwth peth yma ar gael ei orffen ar hyn o bryd. Mae cynlluniau ar y gweill gan rai ym Mrasil i osod argae ar draws un o isafonydd yr Amason, a chwalu cartrefi miloedd a cholli hyn a’r llall amgylcheddol. Mae pethau fel hyn ar draws y byd ar ddigwydd, a’r anghenfil diwyneb sydd yn gyrru pethau yn gwthio ymlaen. Tebyg y gwneir hynny gydag arian rhyngwladol a chwmnïau mawr yn elwa’n helaeth o ddarparu adnoddau a chyllido.

Yn achos Tryweryn yn y 1950au – o gymharu â Llanwddyn yn y ganrif gynt – yr oeddem wedi deffro mwy i weld ein hunain yn cael cam. Ond yr oedd gwleidyddion grymus o Saeson y Blaid Lafur Lerpwl yn llawer mwy tebol nag arweinwyr didwyll naïf Plaid Cymru ac eraill. Beth oedd Gwynfor Evans yn wyneb yr harddaf Bessie Braddock a’i math oedd yn hen lawiau yn y byd go iawn? Rhyw Ddafydd yn erbyn Goliath o stori oedd hi, ond gyda thro yn y gynffon a Goliath yn ennill. Mae hi’r un peth heddiw mewn mannau eraill yn Jeina ac yn Frasil.

Ers tro bellach yn dilyn y patrwm o gofnodi cam fel catharsis cenedlaethol mae sôn am godi cofgolofn yno. Ond beth tybed fyddai yng Nghapel Celyn pe na bai wedi ei foddi? Hawdd meddwl y byddai wedi ei foddi yn yr un modd ag y boddwyd bron i holl bentrefi glan môr Meirionnydd. Na, nid fel ymestyniad o Gantre’r Gwaelod, ond gan frodorion Bro Birmingham a chyffelyb fannau. Y siop wedi cau, y capel yn dy i Saeson (ty haf neu un parhaol i rai sy’n hoffi cefn gwlad). Byddai Cymry’n dal i ffermio ond gyda hanner y tai’n wag yn cael eu gosod i ymwelwyr.

Wrth gwrs, mi oedd yn haws gwrthwynebu un weithred o foddi o gyfateb â’r dilyw cyson graddol ddaeth wedyn a sydd yn dal i’n gwlychu’n gyson. Mae’r porth yn dal yn gilagored os nad dipyn mwy na chilagored gan Seithennyn. Rhwng y cyndynrwydd i weld hynny neu fedru gweld hynny – gan estrysod neu fulod – fe dreiglodd y dirywiad yn ddyfal. Gyda hunan-les a diffyg gwir argyhoeddiad gwleidyddol darniwyd y diriogaeth Gymraeg nes nad oes gennym ond ychydig o nythod morgrug i gadw ein traed yn sych arnynt. Tebyg rywsut i rai o’r ynysoedd bregus yn y Môr Tawel sydd ar fynd yn ysglyfaeth i’r cynhesu mawr pe cyfyd y môr lath neu ddwy eto.

 

Y mae hi’n globaleiddio arnom ninnau bellach, ac mae’r haul yn machlud ar sawl bychanfyd oni fyddo’n ddigon dygn i fedru ailgrisialu ar delerau newydd. A beth fyddai’r rheini? Heibio troedle tiriogaethol, yr ydym ar ein ffordd yn ogystal i’n boddi gan fwrlwm newydd hawddfyd grymus a chyffrous a all ein glastwreiddio mor nerthol nes mai prif nod unrhyw gofgolofn a godid yn Nhryweryn fyddai’n ychwanegu llun neu ddau diddorol at fannau i ymweld â hwy mewn taflenni twristaidd sgleiniog.

Pe bai yno ruddin, tybed onid ymgyrchu ddylem, nid i osod cofgolofn ger yr argae ond yn hytrach i dynnu’r argae i lawr a throi’r cwm yn ôl yn gwm? Digon o waith y gwnaem hynny, yr ydym yn rhy ddedwydd. A phwy ddeuai yno i fyw prun bynnag? Wel efallai y deuai rhai yno o Lerpwl. A mi fyddai hynny reit neis rwy’n siwr – maen nhw wedi dweud ‘sori’.

Mae gan genhedloedd eraill, o Iwerddon ac ymhellach, greithiau diweddar mawr. Ymfalchïwn yn ddiogel felly yn y graith a gaed yn Nhryweryn. Mae’n dwysbigo ychydig bach iawn ar rai o hyd – fel efallai y gwnâi yn hanes rhai (yn unig) ar y pryd. Gêm anodd iawn fyddai hi heb greithiau a gorthrymderau. Heb hynny o gof cenhedlig byddai’r amnesia mawr terfynol wedi’n llethu. Mae cael cam fymryn o help rhag syrthni bywyd ar y soffa feddal. O ran hynny, lle byddai Cristnogaeth heb Judas Iscariot? Fyddai hi ddim hanner cystad’ stori na fyddai?

Ia, chwalu cymdeithas Gymraeg werthfawr, brin, oedd un boen y pryd hynny. Ond wedyn faint sydd go iawn yn poeni bod y dwr foddodd Dryweryn yn dal a dal i godi hyd at geseiliau’r byd bach Cymraeg erbyn hyn?

Atolwg, daw addewidion am y fondigrybwyll Gymru Ddwyieithog o’r Bae Bendigaid (lle bydd pawb yn siarad y ddwy iaith yr un pryd, am wn i). Oni welaf fad yr LCO i’n cyrchu dros y dyfroedd, yn debyg Arthur gynt, i Ynys Afallon wrth i’r gwlybaniaeth trywerynnol nesáu a nesáu at y gwddw?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Steddfod ar y Mall

Ymlaen >

Merched Lloyd George a Ffion