Thema dywyll Thema golau

Colli er mwyn ennill

Gwinllan Château d’Yquem yn ardal Sauternes, Bordeaux. Lluniau’r poteli: The Wine Society

Ymhlith yr achlysuron a fwynhaodd ein colofnydd wrth i’r haf droi’n hydref roedd dathliad pen‑blwydd arbennig.

Y colli y cyfeirir ato yn y pennawd oedd gorfod gwrthod cynnig Barn i gynnal sesiwn flasu yn yr Eisteddfod, a’r ennill oedd trip i Lundain i ddathlu pen‑blwydd arwyddocaol ym mwyty St John, prin bod angen cyflwyno’r bwyty hwnnw, gyda’i faniffesto bwyta trwyn‑i‑gynffon wedi bod yn ddylanwadol iawn ar gogyddion uchelgeisiol dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Os am gael profiad mwy lleol o’r math yma o goginio, argymhellaf fwyty Y Sied yn natblygiad SA1 yn Abertawe, lle mae un o gyn‑gogyddion St John yn rhoi gogwydd Cymreig ar yr arddull. Ond nôl at y cinio. Tybiwyd bod angen dod â photeli o’r seler allan, yn eu plith Bwrgwyn gwyn, Chenin o’r Loire, Bordeaux o’r 1980au a Sauternes o’r flwyddyn geni (cewch ddyfalu pa flwyddyn oedd honno). A chafwyd gwledd yng ngwres enbyd Llundain, gyda’r gwinoedd aeddfed yn gweddu’n berffaith i fwyd nodweddiadol o ddirodres St John, a’r prynhawn yn ymestyn i’r nos yn syndod o hawdd.

Gyda’m traed yn ôl ar y ddaear, fe wnes i fwynhau dau win rhagorol o gasgliad ‘Found’ M&S dros yr haf. Y cyntaf ohonynt oedd y Found Palomino (£10). Yn fy anwybodaeth, tybiais mai grawnwinen wen nad oedd i’w chanfod yn unlle ond Jerez i wneud sieri oedd Palomino, gan anghofio bod gwinoedd yn yr arddull sieri wedi bod yn boblogaidd iawn o amgylch y byd yn yr oes a fu. O Dde Affrica y daw’r gwin dan sylw, lle nad oes fawr o Palomino yn tyfu bellach ac, o ganlyniad, mae’n gwir haeddu’r enw ‘Found’ (dwi’n amheus a yw pob un yn y gyfres yn ei deilyngu). Ar y daflod, mae blas annisgwyl o gyfoethog arno; dyfalaf iddo orffwys ar ei waddod i’w ddwysáu, fel ag a wneir gyda gwinoedd Muscadet. Mae’r alcohol yn isel, a blas mwy ar bob llymaid. Dyma’r gwin gwyn gorau eto yn y gyfres. Y llall i’w ganmol yw’r Found Refosco (£8.50), gwin yr ydw i’n amau i mi sôn amdano yma o’r blaen, ond mae cyfiawnhad dros yr ailadrodd. Dyma’r flwyddyn orau (2025) o’r gwin hwn i ymddangos yn y casgliad, ac yng ngwres yr haf bu’n bartner llwyddiannus i nifer o seigiau ysgafn, a’r un mor dda ar ei ben ei hun yn syth o’r oergell.

Wrth iddi droi’n hydref (a thrip i Dysgani ar y gorwel), cawsom noson yn blasu gwinoedd gwyn Bordeaux a’u cymheiriaid o wledydd eraill. Fy nau offrwm i oedd y C de Sec du Château Closiot, Bordeaux 2023 (£15, The Wine Society) a’r Mount Mary ‘Triolet’ Yarra Valley 2019 (£55, The Wine Society). Wn i ddim lle i ddechrau gyda’r Closiot, cymaint y gellir dweud amdano – yn rhydwythol ar y dechrau ond gydag awyru yn datgelu awgrym o ellyg, afalau, derw cyfoethog, y blas yn olewog ond sych grimp, a mwy a mwy o haenau cudd yn dod i’r amlwg gyda phob llymaid. Am £15, dyma fargen am win cain, ond efallai nad cain yw’r gair chwaith – gwin sy’n ennyn chwilfrydedd (ac yn ei fodloni), efallai. Mae’r Triolet yn llawer mwy syber (ond mwy cain), ac yn debycach i win gwyn Bordeaux na’r gwin uchod, er ei fod yn dod o ochr arall y byd. Y gwahaniaeth yma yw mai’r rawnwinen Sémillon sydd flaenaf yn y gymysgedd, grawnwinen y mae Awstralia yn rhagori ynddi, a’r elfen Sauvignon yn llai amlwg. A dyna un o’r problemau gyda Bordeaux gwyn mwy sylfaenol, lle mae Sauvignon Blanc yn tra‑arglwyddiaethu – rhywbeth na wnaiff y colofnydd yma fyth ei ganmol!

Anfonwch eich cwestiynau gwin at Shôn Williams:
williamsshon@ymail.com
< Yn ôl

Rhai o gyfranwyr y rhifyn

Ymlaen >

‘Terfysgwyr’ Penyberth?