Y Pridd a’r Concrid
Rydw i’n ôl yng Ngwalia Wen. Yn ystod wythnosau olaf fy nhaith ddiwethaf i America, daeth y newydd o adref fod cyflwr iechyd fy Mam, a fu mewn cystudd ers rhai blynyddoedd, wedi gwaethygu. Roedd hi yn yr ysbyty yn Nhywyn. Teimlai fy mhythefnos olaf yng Nghaliffornia fel misoedd. Yn syth ar ôl glanio, dyma droi trwyn y car am y gogledd. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty gwelais fod iechyd Mam wedi dirywio yn arw iawn. Ond sibrydodd fy enw a daeth gwên i’w hwyneb. Ymhen pedwar diwrnod bu farw yng nghwmni fy llys-tad, a fu’n gweini arni yn ddiflino ddydd a nos am y pedair blynedd ddiwethaf. Er fy mod i, ac Owen fy mrawd, yn disgwyl y newyddion trist yma unrhyw funud yn ystod y blynyddoedd olaf, yr un oedd y tristwch a’r galar a’r golled a’r gwacter ar ôl colli’r un a ddaeth â ni i’r byd yma.
Wrth gofio am fy Mam, nid y ddynes fechan orweddiog yng ngwely’r ysbyty yn Nhywyn sy’n dod i’r cof. Cofiaf yn hytrach y ddynes dal olygus gyda gwallt du fel y frân oedd yn fy ngosod mewn sedd fechan ar sgil ei beic ac yn fy hebrwng ar hyd lonydd de orllewin Môn. Dyma’r ddynes a roddodd fi ar ben y ffordd a ’nysgu i werthfawrogi’r Pethe. Ychydig ar ôl colli Mam daeth cymydog yn Niwbwrch â llun i mi o barti o enethod ifanc y pentref yn y pumdegau, fy mam yn eu plith, yn rhoi cyflwyniad o gân actol yn seiliedig ar Ednyfed Fychan. Y geiriau gan Islwyn Ffowc Elis, oedd yn weinidog yn Niwbwrch ar y pryd. Y gerddoriaeth yng ngofal John Hughes, arweinydd côr enwog y pentref. A’r cyfarwyddwr oedd W. H. Roberts, prifathro’r pentref. Daeth y llun â hiraeth nid yn unig am fy Mam ond am gyfnod yn hanes y pentref na welwn ni byth mohono fo mwy. Ond rhaid peidio â byw yn y gorffennol, waeth pa mor wych oedd hwnnw. Rhaid symud ymlaen a gwneud y gorau o heddiw.
Mae un peth yr ydw i’n ei golli am America. A wyddoch chi be ydi hwnnw? Na, nid y petrol rhatach, na’r gwasanaeth rhadlon a pharod yn y siopau a’r tai bwyta. Llaeth enwyn America dwi’n ei golli. Oes, mae llaeth enwyn ardderchog ar werth ym mhob archfarchnad yn America. Llaeth enwyn iawn ag ysbotiau bach melyn o fenyn ar ei wyneb – ‘with real butter chips’ – yn union fel y llaeth oedd ar gael pan oeddwn i’n blentyn. Ac yn union fel y llaeth y bydda i yn ei gorddi! Yn anffodus fedra i ddim corddi yng Nghaerdydd. Wnaiff llefrith poteli plastig yr archfarchnadoedd ddim corddi. Rhaid cael llefrith potel fel llefrith Geraint ein dyn llefrith ym Môn. Byddaf yn rhoi chwart o lefrith i gadw nes ei fod o’n twchu mewn hen botel felysion hanner galwyn. Pan fo’r llefrith wedi suro digon byddaf yn rhoi ychydig o ddwr cynnes a phinsied o halen ynddo ac wedyn ei gorddi’n ôl a blaen ar fy nglin am ugain munud i hanner awr. Fydda i’n gwneud hyn fel arfer wrth wrando ar Post Prynhawn. Unwaith fydd y menyn wedi dechrau ‘crynhoi’ yn felyn ar wyneb y llaeth, rhaid ei hidlo i jwg. A dyna i chi chwart o laeth enwyn go iawn. Fydda i wrth fy modd efo tatws llaeth, yn enwedig os yw’r tatws wedi eu stwnshio efo rwdan neu ffa.
Rhag i chi i gyd feddwl fy mod i’n ‘hen wd y wlad’ go iawn, ychydig yn ôl roeddem ni’n cael cinio yn fflat ffrind i Inge fy ngwraig yn Efrog Newydd. Nid fflat cyffredin mo hwn, o naci, ond un o fflatiau llawr uchaf, ‘penthouse’ mwyaf nodedig ynys Manhattan. Mae gan bob ystafell ei balconi ei hun, a golygfa wahanol o nodweddion amlycaf Efrog Newydd i’w gweld o bob un. Cafodd yr ystafelloedd eu dodrefnu gan gynllunwyr amlycaf y byd. Gwnaeth Kathrine, perchennog y fflat, ei ffortiwn drwy gynllunio dillad merched. Ar ôl pryd o fwyd ysblennydd, eog arbennig sydd ond yn cael ei ddal ar un diwrnod o’r flwyddyn yn un o afonydd Canada, trodd y sgwrs at fwydydd gwahanol wledydd. Gofynnwyd i mi beth oedd nodweddion bwyd y Cymry. Cyn i mi gael meddwl, dywedodd Inge wrtha i am ddisgrifio tatws llaeth. Y fath embaras yng nghanol y crandrwydd ysblennydd yma! Ond disgrifio fu raid. Tra roeddwn i wrthi gwelwn fod golwg drist ar wyneb Kathrine. Meddyliais fy mod yn troi ei stumog wrth sôn am datws llaeth. Ond daeth deigryn i’w llygaid a dywedodd fy mod yn mynd â hi yn ôl i’w phlentyndod a’r bwyd yr oedd ei nain yn ei roi iddi. Ie, dyna chi – tatws llaeth. Roedd ei nain wedi dod i America o wlad Pwyl, lle’r oedd tatws llaeth yn fwyd cyffredin iawn ymysg gwerin bobol y wlad. Dyw Kathrine ddim am wneud eog drudfawr y tro nesaf yr af yno. Mae hi am wneud llond powlen o datws llaeth i mi. Y diwrnod canlynol, dywedais yr hanes wrth ffrind imi o Sweden. Datgelodd yntau ei hoffter o datws llaeth. Ac yn fwy na hynny, ‘rwd’ oedd o’n galw rwdan! Felly mae ein bwyd gwerinol ni’r Cymry yn rhan o fwyd traddodiadol Ewrop. Gosodaf her i berchnogion tai bwyta Cymru – rhowch datws llaeth ar y fwydlen. Gyda llaw fe welais i Dudley yn gwneud tatws llaeth unwaith ar un o’i raglenni. Doedden nhw ddim byd tebyg i’r hyn y byddai Mam wedi eu galw’n datws llaeth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

