Thema dywyll Thema golau

Craciau yn fy ngwydr hanner llawn

Cartŵn coctel Tywyll a Stormus yn dangos wyneb Pŵtin mewn gwydr Cartŵn coctel Tywyll a Stormus yn dangos wyneb Pŵtin mewn gwydr
‘A ddaeth Dy awr, O Dduw, dy awr ofnadwy Di?’ oedd cri ingol Gwenallt ganol y ganrif ddiwethaf, wrth dybio gweld holl seiliau ei wareiddiad yn dymchwel. Ddaeth yr awr ofnadwy honno ddim yn ei oes ef, ond tybed beth pe gofynnai’r cwestiwn heddiw? Mae’r gaeaf ar ein gwarthaf, yn drosiadol yn ogystal ag yn llythrennol. Mae’r misoedd nesaf yn bygwth cymaint o broblemau fel nad yw rhywun yn gallu dirnad eu maint na’u heffaith, heb sôn am sut i’w hwynebu. Efallai mai dyma’r amser i fynd i’r gwely a thynnu’r dillad dros ein pennau. Os nad hynny, cyngor call ar gyfer ymdrin gyda phroblemau yw bod yn rhaid eu diffinio cyn eu hwynebu, gweld eu hyd a’u lled, yna cynllunio ar eu cyfer. Fedrwch chi ddim ymladd llew os paratoesoch ar gyfer pŵdl. Er gwaethaf y problemau enbyd sydd ar ddod, mae un yn llawer iawn mwy na’r gweddill, er mai hi sy’n gyfrifol am rai o’r gweddill hefyd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Protestwyr ifanc yn erbyn Arwisgo 1969 yng Nghaernarfon

Wylit Lywelyn

Ymlaen >
Steffan Harri

Un o’r Tylwyth – holi Steffan Harri