Thema dywyll Thema golau

Crafangau ymwthgar hiliaeth

Gwraig yn dal arwydd "Ych-a-fi racism" mewn protest diweddar yn Abertawe Gwraig yn dal arwydd "Ych-a-fi racism" mewn protest diweddar yn Abertawe
Doeddwn i ddim yn gwybod tan yn ddiweddar fod gan y Mosg yn Abertawe dîm criced. Rising Stars yw enw’r tîm ac mae’n cystadlu mewn cynghrair ganol wythnos yn y ddinas. Mae’n gynghrair weddol newydd sydd wedi ei hariannu gan Criced Cymru i ddenu mwy o chwaraewyr o dras De Asiaidd at y gêm yn lleol, ac mae’n ymddangos ei bod yn mynd o nerth i nerth. Mae degau o bobl ifanc ar feysydd criced yr ardal bob nos Fercher yn batio, bowlio a maesu i dimau fel y Master Blasters a’r Deccan Chargers, gyda chlybiau traddodiadol fel Ynystawe, Felinfoel a Chwrt Herbert yn cynnig eu cyfleusterau i’r gynghrair. Y bwriad yn syml yw lledu’r neges fod criced yng Nghymru yn gamp sy’n awyddus i gofleidio amrywiaeth ein cymunedau ac yn cynnig mynediad i bawb at ein hadnoddau chwaraeon. Er bod y cam blaengar hwn yn yr ardal yn sicr yn stori o newyddion da, yn anffodus roedd fy ymwybyddiaeth gyntaf o’r Rising Stars yn deillio o brofiadau gwael eu cymuned.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Aelodau'r grŵp Kneecap

Hogiau drwg y Wyddeleg

Ymlaen >
Bariau haearn, gwaith Angharad Pearce Jones

Cwestiynau, cyferbyniadau a chyfyngiadau