Thema dywyll Thema golau

Creadigaethau cynnar hanesydd celf

erthygl-mai-2022-2340-1236 erthygl-mai-2022-2340-1236
Mae Pethau Cudd yn deitl addas i’r arddangosfa sydd i’w gweld ar hyn o bryd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Dyma sioe sy’n gofnod o hanes gwaith celf a chrefft yr hanesydd Peter Lord. Mae Jill Piercy, curadur yr arddangosfa, wedi llwyddo i grynhoi cerfluniau a chyfrolau bychain, darluniau a gwaith enamel, sy’n olrhain gyrfa artistig y gŵr arbennig hwn – y gŵr sydd bellach wedi hen ennill ei le fel yr awdurdod ar ddiwylliant gweledol Cymru. Wrth gamu dros drothwy’r oriel, yn croesawu’r ymwelydd mewn cês persbecs mae 19 o gyhoeddiadau, rhai tenau a rhai trwchus, o eiddo Peter Lord – sef llyfryddiaeth weledol o’i holl waith o 1992 hyd heddiw. Y peth nesaf i ddenu’r llygaid yw tŵr lliwgar Y Plentyn Glân (c.1984) sydd wedi’i ysbrydoli gan ddelweddau cardiau Tarot. Ynghyd â’r haul, y lleuad a’r sêr, mae’r adeiladwaith o blatiau enamel yn cynnwys dynionach a golygfeydd sy’n cyfleu’r ymryson, yr ymbalfalu a’r dyfalu sydd ynghlwm â thaith bywyd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2022-2339-1235

Anllywodraeth y Cedyrn

Ymlaen >
erthygl-mai-2022-2341-1237

Rhyfel sy’n dal i frifo